Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Enwau a ddefnyddir yn gyffredin
Pan fydd ymgeisydd yn defnyddio'n gyffredin enw sy'n wahanol i'w enw gwirioneddol, neu, yn defnyddio'i enw yn gyffredin mewn ffordd sy'n wahanol i'r hyn a nodwyd ar y papur enwebu, gall ofyn am gael defnyddio hwn yn lle ei enw gwirioneddol.1
Gall ymgeisydd ofyn am gael defnyddio enw cyntaf a/neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin. Caiff hefyd ddefnyddio blaenlythrennau fel rhan o'i enw cyffredin os cânt eu defnyddio'n gyffredin mewn perthynas â nhw.
Er enghraifft, efallai mai ‘Andy’ yw'r enw cryno a ddefnyddir ar ei gyfer, yn lle ei enw llawn cyntaf sef ‘Andrew’. Os felly, gall ysgrifennu ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu os byddai'n well ganddo fod yr enw hwnnw'n ymddangos ar y papur pleidleisio.
Gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. Er enghraifft, yn achos Andrew Smith-Roberts, gallai ddefnyddio Andrew Roberts neu Andrew Smith (os mai un o'r rhain oedd yr enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer).
Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd deitl, gall ddefnyddio hwn fel ei enw llawn. Er enghraifft, os mai enw gwirioneddol yr ymgeisydd yw Joseph Smith, ond mai ei deitl etifeddol yw Joseph Avon, gall ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel ei enw llawn
Mae'r tabl hwn yn nodi rhestr, nad yw'n gynhwysfawr, o amrywiadau posibl:
Enw gwirioneddol yr ymgeisydd | Enw a ddefnyddir yn gyffredin | Yn wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw arall? | Derbyniol? |
---|---|---|---|
Andrew John Smith-Jones | Andrew Smith-Jones | Nac ydy | Ydy – os mai Andrew yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | John Smith-Jones | Nac ydy | Ydy – os mai John yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | Andy Smith-Jones | Ydy | Ydy – os mai Andy yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | Johnny Smith-Jones | Ydy | Ydy – os mai Johnny yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | Andrew John Smith | Ydy | Ydy – gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. |
Andrew John Smith-Jones | Andy Jones | Ydy | Ydy – os mai Andy yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer a gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. |
Andrew John Smith-Jones | AJ Smith-Jones | Ydy | Ydy – os yw AJ yn flaenlythrennau a gaiff eu defnyddio'n gyffredin ar ei gyfer |
Andrew John Smith-Jones | Andrew J Smith | Ydy | Ydy – os mai Andrew J yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer a gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. |
Penderfyniadau ar Enwau a Ddefnyddir yn Gyffredin
Nid eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu a yw'r enw cyffredin a roddwyd yn 'enw' y mae'r ymgeisydd yn ei ddefnyddio'n gyffredin nac a yw'n bodloni'r gofyniad cyfreithiol. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi dderbyn beth bynnag y bydd ymgeisydd wedi'i nodi yn y blwch enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei olwg a'i dderbyn fel enw cyffredin yr ymgeisydd.
Yn ôl y gyfraith, yr unig seiliau sydd gennych dros wrthod enw a ddefnyddir yn gyffredin yw'r rhai canlynol:2
- mae'n debygol y gall ei ddefnydd gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
- mae'n aflan neu'n sarhaus
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod wedi cwblhau ei ffurflen enwebu yn unol â'r gyfraith a bod yn fodlon bod yr enw cyffredin a roddwyd yn enw a ddefnyddir yn gyffredin ganddo mewn gwirionedd.
Wrth roi cyngor anffurfiol, efallai yr hoffech dynnu sylw'r ymgeisydd at ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin.
- 1. Schedule 1 Rule 6 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Schedule 1 Rule 14 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2