Gellir defnyddio deiseb etholiadol i herio canlyniad etholiadau. Gall deiseb etholiadol ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gael ei chyflwyno gan:1
person sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
bedwar neu fwy o bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad neu yr oedd ganddynt hawl i bleidleisio yn yr etholiad
Ni chaiff unrhyw etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n ddienw gyflwyno deiseb etholiadol.
Beth yw'r sail dros ddeiseb etholiadol?
Y rhesymau a ganiateir dros gyflwyno deiseb mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw:2
nad oedd yr unigolyn y codwyd amheuaeth ynghylch ei ethol wedi'i iawn ethol
bod yr unigolyn y codwyd amheuaeth ynghylch ei ethol wedi'i anghymhwyso ar adeg yr etholiad
bod yr etholiad yn annilys oherwydd arferion llwgr neu anghyfreithlon neu ar y seiliau a nodir yn Adrannau 164 a 165 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd)
Pwy fydd yr ymatebydd?
Yr unigolyn sydd wedi'i (h)iawn ethol y ceir amheuaeth ynghylch ei (h)ethol ei wneud fydd yr ymatebydd i'r ddeiseb mwyaf tebyg. Os bydd y ddeiseb yn ymwneud â threfn cynnal yr etholiad, efallai y byddwch chi (neu'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu) hefyd yn ymatebydd i'r ddeiseb.3
Dyddiadau cau a lleoliadau ar gyfer cyflwyno deisebau
Fel arfer, rhaid cyflwyno deiseb mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd yr etholiad.4
Gellir caniatáu rhagor o amser o dan amgylchiadau penodol
Dylid cynghori unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno deiseb etholiadol i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol a'r broses o gyflwyno deisebau, gan gynnwys cadarnhad ynglŷn â'r dyddiadau cau, dylech gysylltu â'r Swyddfa Deisebau Etholiadol:
The Election Petitions Office Room E105 Royal Courts of Justice Strand London WC2A 2LL
1. a128, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (RPA 83) ac Atodlen 9, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012)↩ Back to content at footnote 1