| Argraffu'r canllawiau llawn

Dogfennau etholiadol sydd ar gael i'w harchwilio neu eu cyflenwi

Rhaid i unrhyw geisiadau i archwilio neu gyflenwi'r gofrestr wedi'i marcio, rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio a dogfennaeth sy'n ymwneud â'r etholiad gael eu gwneud yn ysgrifenedig. Ceir canllawiau llawn ar y gofyniad hwn yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o ddogfennau sydd ar gael i'w harchwilio o sesiynau agor amlenni pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif yn ein canllawiau ar selio a chadw dogfennau

Bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn cadw'r papurau enwebu a'r ffurflenni cyfeiriad cartref ac ni fydd yn anfon y rhain at y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar ôl yr etholiad. Nid yw'r dogfennau hyn ar gael i'w harchwilio ar ôl yr etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023