Fel rhan o unrhyw adolygiad o fannau pleidleisio, dylech werthuso addasrwydd y gorsafoedd pleidleisio sydd ar gael i'w defnyddio yn yr ardal etholiadol briodol
Mae'n hanfodol bod gorsafoedd pleidleisio yn sicrhau bod digon o le ar gael i bleidleisio.
Yn ddelfrydol, bydd gennych ddewis amrywiol o adeiladau hygyrch, mewn man cyfleus i etholwyr yn yr ardal, gyda pherchnogion yn fodlon iddynt gael eu llogi fel gorsafoedd pleidleisio am gost isel. Yn anffodus, yn ymarferol, nid felly y mae yn aml ac mewn rhai ardaloedd ni fydd llawer o ddewis ar gael.
Bydd angen i chi ystyried anghenion mynediad wrth gynllunio cynllun a threfn gorsafoedd cynllunio er mwyn sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel. Dylai hyn gynnwys pleidleiswyr anabl y gall fod angen cyfarpar ychwanegol neu seddi arnynt. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar y mathau o gyfarpar y bydd angen i chi eu hystyried o bosibl yn ein canllawiau ar ddarparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio.
Dylai maint gorsafoedd pleidleisio fod yn ddigon mawr i alluogi llif clir o bleidleiswyr i geisio lleihau'r risg o dagfeydd neu giwiau. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod ardal wedi'i nodi ar gyfer gwirio ID ffotograffig yn breifat, os gofynnir am hynny.
Dylech fod yn gallu dangos bod asesiad wedi ei gynnal o'r gorsafoedd pleidleisio i'w defnyddio yn yr etholiad. Lle mae problemau mynediad yn bodoli, dylech ddogfennu'r problemau, nodi gwelliannau posibl a chofnodi unrhyw gamau gweithredu a gymerir i geisio datrys y problemau hyn.
Dylech sicrhau y caiff unrhyw gyfarpar ychwanegol sy'n ofynnol er mwyn gwneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch ei ddosbarthu a'i osod cyn agor y bleidlais.
Mae'r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i drefnu gorsafoedd pleidleisio er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bob pleidleisiwr.