Dylech chi wneud trefniadau ar gyfer dirprwy rhag i chi fethu â gweithredu fel Swyddog Canlyniadau eich hun. Gallwch benodi dirprwyon i gyflawni eich holl ddyletswyddau neu unrhyw rai ohonynt, a gall hyn fod am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol.1
Yn achos etholaeth sy'n cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, efallai yr hoffech gytuno a ffurfioli dirprwyo rolau a chyfrifoldebau gan y Swyddog Canlyniadau drwy benodi unrhyw Swyddogion Canlyniadau Lleol neu swyddogion o unrhyw awdurdod lleol arall yn yr etholaeth i weithredu fel Dirprwy Swyddogion Canlyniadau gyda phwerau penodol.
Dylai bod unrhyw ddirprwyon a benodir yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni’r swyddogaethau y neilltuwyd iddynt, megis helpu i dderbyn papurau enwebu, rheoli proses pleidleisiau post neu ddyfarnu papurau pleidleisio amheus.
Rhaid i chi gadarnhau unrhyw benodiadau yn ysgrifenedig a chynnwys manylion y swyddogaethau y mae’r dirprwy wedi’i awdurdodi i’w cyflawni ar eich rhan.2
Dylai’r derbyniad fod yn ysgrifenedig hefyd.
Yn yr un modd â’r Swyddog Canlyniadau, mae’r Dirprwy hefyd yn atebol am dorri dyletswydd swyddogol.3