Os nad chi hefyd yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, bydd angen i chi weithio'n agos â’r swyddog i gael y data cofrestru a phleidleisio absennol perthnasol.
Dylech sicrhau bod diogelu data yn cael ei ystyried a bod unrhyw ddata sy’n cael ei drosglwyddo yn ddiogel.
Os oes angen cyfnewid data yn electronig, dylech gytuno ar yr amseroedd ar gyfer cyfnewid data a sicrhau bod prawf o’r broses yn cael ei gynnal cyn y trosglwyddiad cyntaf a drefnwyd.
Bydd yna ddiweddariadau i’r data ar sawl adeg yn ystod amserlen yr etholiad, gan ei bod hi’n ofynnol i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad addasu etholiad dros dro yn ogystal â'r hysbysiad addasu etholiad terfynol.1
Rydym wedi cyhoeddi amserlen yn cynnwys y dyddiadau sy'n ymwneud â chyhoeddi'r hysbysiadau hyn.
Ceir amserlen yr etholiad ar gyfer etholiadau'r Senedd sydd heb eu trefnu yn adran gynllunio ein tudalen adnoddau.
Etholaethau trawsffiniol
Yn achos etholaeth sy'n cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech weithio'n agos ag unrhyw Swyddog Cofrestru Etholiadol arall a staff etholiadau mewn awdurdodau lleol eraill i benderfynu a oes angen gwneud trefniadau ar gyfer trosglwyddo a derbyn data, yn cynnwys unrhyw ddiweddariadau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiadau addasu dros dro a therfynol. Os ydych chi'n derbyn data, dylech bennu sut fyddwch chi'n rheoli'r data y byddwch chi'n ei gael, yn cynnwys pa un ai a all eich system feddalwedd brosesu data gan awdurdodau lleol eraill, yn enwedig pan maen nhw'n defnyddio meddalwedd rheoli etholiadol wahanol. Am ragor o wybodaeth ynghylch materion ymarferol sy’n ymwneud â phleidleisio absennol mewn etholaethau trawsffiniol, ewch i Pleidleisio Absennol.