Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Beth nad yw'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?

  • talu eich ernes etholiadol 1
  • costau y gellir eu priodoli'n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd 2   
  • unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy'n ymddangos mewn papur newydd, cyfnodolyn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig 3
  • cyfleusterau a ddefnyddiwch am fod gennych hawl i wneud hynny fel ymgeisydd, megis ystafell gyhoeddus ar gyfer cyfarfod 4
  • amser gwirfoddolwyr gan gynnwys amser a dreulir gan eich staff nad ydych yn eu talu amdano  5
  • y defnydd o brif gartref rhywun, a ddarperir am ddim 6
  • y defnydd o gar personol rhywun neu ddull cludiant arall, a gaffaelwyd yn bennaf at ddefnydd personol yr unigolyn hwnnw ac a ddarperir am ddim 7
  • y defnydd o gyfarpar cyfrifiadurol neu argraffu rhywun, a gaffaelwyd yn bennaf at ddefnydd personol y person hwnnw ac a ddarperir am ddim 8
  • treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo, er enghraifft llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu9
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2024