Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir.
Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi'i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli'r gymdeithas anghorfforedig.
Weithiau, efallai y caiff y rheolau eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes rhaid eu ffurfioli.
Er enghraifft, gall clybiau aelodau fod yn gymdeithasau anghorfforedig weithiau.
Beth sy'n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir:
os bydd ganddi fwy nag un aelod
os yw'r brif swyddfa yn y DU
os yw'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU 1
Rhaid i chi fod yn siŵr bod y gymdeithas anghorfforedig yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Nid oes unrhyw gofrestr o gymdeithasau anghorfforedig. Rhaid asesu a yw cymdeithasau anghorfforedig yn ffynonellau a ganiateir fesul achos felly.
Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni'r meini prawf, dylech ystyried a yw'r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na'r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.
Os credwch mai felly y mae, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o'r unigolion a gyfrannodd fwy na £50 yn rhoddwyr a ganiateir a'u trin fel y rhoddwyr.
Rhaid i chi sicrhau bod gan y gymdeithas anghorfforedig fwy nag un aelod a bod ei phrif swyddfa yn y DU.
Rhaid i chi gadarnhau bod y gymdeithas anghorfforedig yn cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU.
Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech ei hysbysu bod yn rhaid iddi roi gwybod i ni am hyn. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.
Os hoffech gael mwy o gyngor ar gadarnhau p'un a yw cymdeithasau anghorfforedig yn rhoddwyr a ganiateir mewn achosion penodol, cysylltwch â ni.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
• enw'r gymdeithas anghorfforedig • prif gyfeiriad y gymdeithas anghorfforedig 2