Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim.
Sut rydych yn cadarnhau a yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:
a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o'r gofrestr
a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hwyr
Mae'n bosibl bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei diddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.
O ran unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar y canlynol:
gwefan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau
Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ynglŷn â'i gweithgareddau busnes.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 2
Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
1. Schedule 2A, paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(f) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1