Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Enghreifftiau o wariant tybiannol
Mae’n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i chi ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%1
- mae’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a’r hyn a dalwch dros £502
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan)3
- byddai wedi bod yn wariant ymgeisydd pe byddech chi wedi ysgwyddo’r gwariant.4 Gweler Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd? am wybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd
Enghraifft A
Mae grŵp ymgyrch yn anfon taflenni at ymgeiswyr sydd â gwerth o £600 i'w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn derbyn y taflenni ac yn trefnu i’r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae’r prawf cyntaf a’r ail brawf wedi eu bodloni gan fod y taflenni wedi eu darparu at ddefnydd yr ymgeisydd am ddim.
Mae’r trydydd prawf hefyd wedi’i fodloni gan fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£600) a’r hyn mae’r ymgeisydd yn ei dalu (£0) dros £50.
Mae’r pedwerydd prawf yn cael ei fodloni gan fod yr ymgeisydd wedi trefnu i’r taflenni gael eu defnyddio ar ei ran drwy drefnu eu bod yn cael eu dosbarthu.
Mae’r pumed prawf yn cael ei fodloni gan fod deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
Gan fod yr holl brofion wedi’u bodloni, mae hon yn enghraifft o wariant tybiannol. Mae’n rhaid adrodd am werth llawn y taflenni fel gwariant tybiannol.
Mae rhodd hefyd wedi ei wneud i’r ymgeisydd gan fod gwerth y gwariant tybiannol dros £500.
Enghraifft B
Mae argraffydd yn darparu ymgeisydd gyda dyfynbris o £200 i argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae’r argraffydd hefyd yn cynnig 50% o ostyngiad anfasnachol ar yr archeb i’r ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn cymryd y gostyngiad, ac yn trefnu i’r taflenni gael eu hanfon at bleidleiswyr.
Mae’r prawf cyntaf a’r ail brawf wedi eu bodloni gan fod y taflenni wedi eu darparu ar gyfer defnydd yr ymgeisydd ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%.
Mae’r trydydd prawf hefyd wedi’i fodloni gan fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£200) a’r hyn mae’r ymgeisydd yn ei dalu (£100) dros £50.
Mae’r pedwerydd prawf yn cael ei fodloni gan fod yr ymgeisydd wedi trefnu i’r taflenni gael eu defnyddio ar ei ran drwy drefnu eu bod yn cael eu dosbarthu.
Mae’r pumed prawf yn cael ei fodloni gan fod deunydd digymell a anfonir at etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Gan fod yr holl brofion wedi’u bodloni, mae hon yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i’r ymgeisydd adrodd am y £100 a dalon nhw am y taflenni fel taliad arferol a dalwyd gan yr asiant. Rhaid adrodd am y £100 sy’n weddill o’r gwerth a ddarparwyd fel gostyngiad fel gwariant tybiannol.
Nid yw gwerth y gwariant tybiannol yn fwy na £500, felly mae ond angen adrodd hwn fel gwariant tybiannol ar ffurflen yr ymgeisydd gan nad oes rhodd wedi’i gwneud.
- 1. Erthygl 66(1)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 66(3), (4) & (5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4