| Argraffu'r canllawiau llawn

Costau llety a chostau gweinyddol

Offer a man swyddfa

Mae costau y mae’n rhaid adrodd amdanynt yn cynnwys llogi man swyddfa, gan gynnwys ardrethi busnes, ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, boed yn cael ei rentu o’r newydd neu dan gytundeb rhentu sydd eisoes yn bodoli. Mae’n cynnwys cost man swyddfa pan mae’n cael ei rannu. 

Os ydych chi’n rhannu man swyddfa, rhaid cynnwys swm sy’n adlewyrchu’n rhesymol y defnydd gan yr ymgeisydd yn yr ymgyrch yn eich ffurflen. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhannu costau, gweler Rhannu gwariant yr adroddir arno a gwariant nas adroddir arno.

Mae hyn hefyd yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â phrynu, defnyddio neu logi man swyddfa ar gyfer eich ymgyrch. 

Os ydych chi’n cael defnydd o fan swyddfa neu offer ar gyfer defnydd yn yr ymgyrch, gall hwn fod yn wariant tybiannol ac mewn rhai achosion yn rhodd i’r ymgeisydd. Gweler gwariant tybiannol am ragor o ganllawiau.

Er enghraifft, desgiau, cadeiriau a chyfrifiaduron a ddarperir gan fusnes i’w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd.

Llety i staff a gwirfoddolwyr

Mae angen adrodd am gostau darparu llety i asiantiaid, gwirfoddolwyr neu weithwyr eraill sy’n ymgyrchu ar gyfer yr ymgeisydd os yw’r ymgeisydd neu drydydd parti yn talu amdanynt neu yn eu had-dalu.

Llety i’r ymgeisydd

Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â’r etholiad.1

Pan mae cost llety yn draul bersonol i’r ymgeisydd, nid yw’r gost hon yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen wariant. Gweler Treuliau personol am ragor o wybodaeth.

Dyfeisiau a ffonau symudol

Mae’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig â ffonau symudol neu ddyfeisiau llaw eraill a ddefnyddir yn yr ymgyrch, pan delir y costau hyn gan yr ymgeisydd neu drydydd parti.

Mae angen adrodd am y costau hyn ac eithrio:

  • pan mae’r ymgeisydd yn defnyddio’i ddyfais bersonol y mae wedi ei chaffael ar gyfer ei ddefnydd personol ac ni ysgwyddir unrhyw gostau ychwanegol sydd tu hwnt i ddefnydd arferol2
  • mae rhywun yn darparu’r ymgyrch gyda defnydd o ddyfais sydd wedi ei chaffael ar gyfer ei ddefnydd ei hun am ddim, ac ni ysgwyddir unrhyw gostau ychwanegol sydd tu hwnt i ddefnydd arferol3

Enghraifft A

Mae cerdyn SIM gyda lwfans data a galwadau yn cael ei brynu ar gyfer defnydd ymgeisydd yn ei ymgyrch. Byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd

Enghraifft B

Mae ffôn symudol gwirfoddolwr yn cael ei ddefnyddio i gydlynu â gwirfoddolwyr eraill, ac mae cyfran o gostau’r contract ffôn yn cael eu had-dalu gan yr ymgeisydd. Byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd

Enghraifft C

Mae’r ymgeisydd yn defnyddio’i ffôn ei hun y mae wedi ei gaffael ar gyfer ei ddefnydd personol, ac ni ysgwyddir unrhyw gostau pellach sydd tu hwnt i’r gost fisol arferol am gostau a data. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd

Gorbenion

Mae’n cynnwys cost:

  • trydan
  • llinellau ffôn a mynediad at y rhyngrwyd


    ar gyfer defnydd yn ymgyrch yr ymgeisydd.

Mae’n cynnwys cost tanysgrifio i wasanaethau monitro’r cyfryngau, gwasanaethau gwifrio’r wasg a datganiadau i’r wasg.

Costau sy’n cael eu heithrio

Y costau nad oes angen adrodd amdanynt yw:

  • gofal plant i ymgeisydd, asiant neu wirfoddolwr
  • dŵr, nwy neu dreth y cyngor
  • defnydd o brif neu unig breswylfa rhywun fel llety pan mae’n cael ei darparu am ddim4

Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â’r etholiad.5

Pan mae cost llety yn draul bersonol i’r ymgeisydd, nid yw’r gost hon yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen wariant. Gweler Treuliau personol am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2026