| Argraffu'r canllawiau llawn

Cynnal y gofrestr

Y gofrestr etholiadol

Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae gennych ddyletswydd i gynnal:1  

  • cofrestr o etholwyr seneddol
  • cofrestr o etholwyr llywodraeth leol   

Mae’r cofrestrau hyn yn cynnwys manylion y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac mae’n rhaid iddynt gael eu cyfuno cyhyd ag y bo’n ymarferol. Dylai unrhyw gyfeiriad at ‘y gofrestr’ yn ein canllawiau gael ei ystyried fel cyfeiriad at y cofrestrau cyfun oni bai y nodir yn wahanol.


Mae’r etholfraint ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed.2  Mae hyn yn golygu bod y gofrestr llywodraeth leol yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed fel etholwyr llawn. Yn ogystal â hyn, mae gan bobl ifanc 15 mlwydd oed a rhai 14 mlwydd oed yr hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol fel cyrhaeddwyr. Cyrhaeddwr yw rhywun sy’n cael ei ben-blwydd yn 16 mlwydd oed cyn diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis yn dilyn 1 Rhagfyr ar ôl y ‘dyddiad perthnasol’.


Bydd angen i’r gofrestr gyfun nodi’n glir y dyddiad y bydd y rhai sydd dan 18 mlwydd oed yn cael eu pen-blwydd yn 18 mlwydd oed er mwyn dangos eu cymhwysedd i bleidleisio mewn etholiadau gwahanol yn glir.

Nid oes rhaid cynnwys dim gwybodaeth am y rhai dan 16 mlwydd oed ar unrhyw fersiwn o’r gofrestr a gyhoeddwyd neu sydd ar gael fel arall, ac eithrio amgylchiadau prin iawn. 3 Mae gwybodaeth arall ar gael yn ein canllawiau ar gyrchu a chyflenwi’r gofrestr.

Mae’r etholfraint ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol hefyd yn cynnwys dinasyddion tramor cymwys. 
Mae’n rhaid i’r cofnod yn y cofrestrau cyfun ar gyfer unrhyw unigolyn sydd wedi cofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn unig yn rhinwedd bod yn ddinesydd tramor cymwys, gyfleu’r ffaith honno.
 

Y gofrestr olygedig

Mae’n rhaid i chi hefyd lunio fersiwn olygedig (neu agored) o’r gofrestr o etholwyr seneddol.4  Y term ‘cofrestr olygedig’ yw’r term technegol a ddefnyddir mewn deddfwriaeth. Defnyddir y term cofrestr agored wrth gyfathrebu ag aelodau’r cyhoedd er mwyn ei gwneud yn haws i ddeall beth yw diben y gofrestr hon a sut y caiff ei defnyddio. 
Nid yw’r gofrestr olygedig yn cynnwys manylion unrhyw etholwr dienw nac unrhyw etholwr sydd wedi’i gynnwys ar y gofrestr seneddol lawn ond sydd wedi optio allan o gael ei fanylion ar y gofrestr olygedig.
Nid oes unrhyw ofyniad i gyhoeddi fersiwn olygedig o’r gofrestr llywodraeth leol. 5 O’r herwydd, nid yw rhywun ag etholfraint llywodraeth leol yn unig wedi’i gynnwys ar gofrestr olygedig. Byddai hyn yn cynnwys:

  • unrhyw etholwyr dan 16 mlwydd oed
  • dinasyddion tramor cymwys
  • dinasyddion aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (ac eithrio dinasyddion Iwerddon cymwys)
  • arglwyddi sy’n aelodau o Dŷ’r Arglwyddi
  • etholwyr sydd wedi cofrestru drwy broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gyda marciwr J 
     

Cofnodion pleidleisio absennol

Yn ogystal â chynnal y gofrestr, mae gennych ddyletswydd i brosesu ceisiadau am bleidlais absennol, cynnal y cofnod pleidleisio absennol a llunio rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer etholiad.6  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar bleidleisio absennol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026