Cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ trwy gydol y flwyddyn

Mae’n ofynnol i chi gynnal ymholiadau o dŷ i dŷ trwy gydol y flwyddyn1 a dylech fod â’r staff priodol i ymgymryd â’r ymweliadau hyn.2
 
Gellir defnyddio’r ymweliadau ar gyfer y canlynol: 

  • gwneud ymholiadau gydag unigolion sydd heb ymateb i wahoddiad i gofrestru
  • canfod newidiadau i eiddo, megis adeiladau newydd neu newidiadau i eiddo cyfredol, i’ch helpu i ddiweddaru eich cronfa ddata eiddo
  • helpu etholwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i wneud cais i gofrestru neu ymateb i’ch ymholiadau

Dylid cynnwys hyfforddiant diogelu data yn eich hyfforddiant ar gyfer pob aelod staff a chanfasiwr a fydd yn cynnal ymholiadau dŷ i dŷ. Bydd hyn yn eich helpu i ymgorffori’r egwyddorion diogelu data yn eich gwaith a dangos eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch cynllunio, hyfforddi, a recriwtio staff, gan gynnwys canfaswyr, yn y cynllun staffio ar gyfer cyflawni’r canfasiad blynyddol
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021