Gwirio'r gynulleidfa er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd

Gwirio'r gynulleidfa er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd

Bydd etholwyr cymwys yn eich ardal yn cael eu cynnwys mewn grwpiau penodol mewn perthynas â'r broses gofrestru.

Etholwyr anghofrestredig / newydd

Bydd angen i unrhyw etholwyr newydd wneud cais i gofrestru a darparu eu dynodwyr personol er mwyn cofrestru i bleidleisio.
 
Bydd y rhai nad ydynt ar y gofrestr, gan gynnwys grwpiau nad ydynt wedi cofrestru fel arfer, yn parhau i fod yn darged ar gyfer gweithgarwch cofrestru. Bydd y grwpiau sy'n llai tebygol o ymuno â'r gofrestr a'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud hynny yn amrywio yn ôl ardal, gan greu heriau lleol unigryw. Mae her barhaus wrth nodi materion lleol a chymryd camau gweithredu mewn ymateb i'r rhain er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl wedi'u cofrestru. 

Grwpiau cymdeithasol lle mae angen gweithgarwch ymgysylltu ychwanegol 

Yn ôl gwaith ymchwil, mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o fod yn absennol o'r gofrestr neu'n fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru mewn cyfeiriad heblaw eu cyfeiriad presennol.
 
Mae amryw o resymau pam nad yw grwpiau penodol yn ymddangos ar y gofrestr – er enghraifft, efallai eu bod yn symud o fan i fan, efallai eu bod wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth, neu efallai nad ydynt yn ymwybodol o'u hawliau. Mae hyn yn golygu bod angen cyrraedd y grwpiau hyn mewn ffyrdd gwahanol, gan ddefnyddio sianeli gwahanol, ac y cânt eu cymell gan negeseuon gwahanol.
 
O'r data proffil a gasglwyd gennych, byddwch wedi nodi'r grwpiau cymdeithasol penodol yn eich ardal sy'n llai tebygol o ymuno â'r gofrestr neu fod ar y gofrestr, naill ai am nad oes nifer ddigonol ohonynt wedi cofrestru fel arfer, neu am nad ydynt yn ymateb i ohebiaeth oddi wrth y Swyddog Cofrestru Etholiadol fel arfer. Bydd angen ymgysylltu â'r grwpiau hyn mewn ffyrdd ychwanegol a phenodol er mwyn sicrhau bod mwy o debygolrwydd y byddant yn ymuno â'r gofrestr. 

Gall y grwpiau hyn gynnwys: 

  • Y rhai sy'n rhentu'n breifat 
  • Y rhai sy'n symud cartref a'r boblogaeth symudol 
  • Pobl ifanc (o dan 35 oed) 
  • Cyrhaeddwyr 
  • Dinasyddion yr UE a'r Gymanwlad 
  • Gwladolion tramor cymwys
  • Rhai grwpiau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (Affricanaidd, Cymysg, Bangladeshaidd) 
  • Pobl sydd wedi byw yn eu heiddo am lai na 2 flynedd 
  • Pobl sydd wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd 
  • Lefel isel o ruglder yn y Saesneg 
  • Di-waith 
  • Pobl ifanc heb gymwysterau
  • Myfyrwyr mewn cyfeiriad yn ystod y tymor

Efallai na fydd rhai heriau yn ymwneud yn benodol â'r gynulleidfa – efallai y byddant yn benodol i'ch ardal. Er enghraifft, gall fod gennych rwystrau daearyddol neu lefelau isel o gysylltedd band eang sy'n golygu y bydd pobl yn ei chael hi'n anos cofrestru ar-lein. Dylai eich strategaeth hefyd ystyried sut y dylid mynd i'r afael â'r ystyriaethau hyn. 

Byddwch wedi nodi'r grwpiau y mae angen cynnal gweithgarwch ymgysylltu penodol mewn perthynas â nhw yn eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd. Ar ôl adolygu proffil eich ardal gofrestru, dylech adolygu'r grwpiau penodol a nodwyd er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol o hyd. Efallai y bydd angen i chi ailgyfeirio eich adnoddau, efallai y bydd angen i chi barhau â'ch gwaith ond mireinio eich dull o weithredu, neu efallai y bydd grŵp arall yn dod i'r amlwg lle nodir bod angen ymgysylltu ag ef mewn ffordd benodol, fel cyrhaeddwyr. 

Etholwyr sydd wedi cofrestru eisoes

Bydd enwau'r etholwyr hyn wedi'u nodi ar ohebiaeth a anfonir fel rhan o'r canfasiad. Bydd angen iddynt wybod beth y dylent ei wneud os bydd angen newid eu gwybodaeth gofrestru. 

Nodir cynulleidfaoedd targed enghreifftiol a chyfleoedd i'w cyrraedd isod: 

Cynulleidfa Heriau Cyfleoedd i'w cyrraedd
Etholwyr cofrestredig  Angen gwybod sut i ddiweddaru eu manylion os byddant yn newid 
  • Gohebiaeth ganfasio
  • Ffurfleni Ymholiadau Cofrestru
  • Gwybodaeth gyhoeddus drwy sianeli cynulleidfa ehangach fel gwefan, cylchgrawn a gohebiaeth eraill yr awdurdod lleol 
  • Hysbysebion lleol sy'n codi ymwybyddiaeth
  • Gwaith yn y cyfryngau lleol
Heb gofrestru (gan gynnwys, fel arfer, grwpiau lle na cheir lefelau cofrestru digonol a grwpiau sy'n anos eu cyrraedd) Rhwystrau fel preswyliaeth amharhaol, diffyg ymwybyddiaeth o'u hawliau, ymddieithrio neu'n ei chael hi'n anodd cofrestru    
  • Gohebiaeth ganfasio
  • Gwahoddiadau i Gofrestru (ITR)
  • Cymryd camau dilynol drwy gysylltu'n uniongyrchol â nhw (e.e. llythyrau, galwadau ffôn a chanfasio o dŷ i dŷ/ymweliadau personol)
  • Ffurflen Ymholiadau Cofrestru
  • Defnyddio data addysg lleol
  • Gweithgarwch ymgysylltu wedi'u targedu gan gynnwys darparu gwybodaeth gyhoeddus, hysbysebion a gweithio gyda sefydliadau partner 

      
Grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd

Yn ôl gwaith ymchwil, mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o fod yn absennol o'r gofrestr neu'n fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru mewn cyfeiriad heblaw am eu cyfeiriad presennol. 

Byddwch wedi nodi'r grwpiau cymdeithasol penodol yn eich ardal sy'n llai tebygol o ymuno â'r gofrestr neu fod ar y gofrestr, naill ai am nad oes nifer ddigonol ohonynt wedi cofrestru neu am nad ydynt yn ymateb i ohebiaeth gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol fel arfer. Bydd angen ymgysylltu â'r grwpiau hyn mewn ffyrdd ychwanegol a phenodol er mwyn sicrhau bod mwy o debygolrwydd y byddant yn ymuno â'r gofrestr.

Mae'r tabl isod yn nodi rhai o'r heriau a'r cyfleoedd

Demograffig Heriau    Cyfleoedd i'w cyrraedd
Pobl ifanc a chyrhaeddwyr (gan gynnwys pobl ifanc 14/15 oed)
  • Nid yw'r cyfryngau traddodiadol yn eu cyrraedd
  • Ddim yn ymwybodol bod angen iddynt gofrestru
  • Yn dibynnu ar ddylanwadau teuluol
  • Wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth
  • Diffyg ffydd mewn awdurdod
  • Blaenoriaethau eraill
  • Yn cael eu dylanwadu gan eu cymheiriaid
  • Nifer fawr ohonynt yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
  • Nifer fawr ohonynt yn defnyddio ffonau clyfar ac yn anfon negeseuon testun
  • Gwybodaeth a chofrestru ar-lein
  • Efallai eu bod yn yr ysgol, yn y coleg neu'n hyfforddi, gan ddarparu sianeli cyfathrebu posibl
Myfyrwyr
  • Symudol iawn
  • Ymddieithrio rhag gwaith papur a'r post
  • Blaenoriaethau eraill a phethau eraill yn tynnu eu sylw
  • Nid ydynt yn gyfarwydd â chofrestru eu hunain
  • Mae'r sefydliad yn gofyn iddynt gwblhau gwaith papur – wedi'u grwpio mewn neuaddau myfyrwyr neu ardaloedd o'r dref lle ceir nifer fawr o fyfyrwyr
  • Y potensial i gael eu cymell
  • Nifer fawr ohonynt yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
Pobl sydd wedi symud tŷ
  • Ddim yn ymwybodol bod angen ailgofrestru
  • Ddim yn flaenoriaeth
  • Partneriaid yn helpu i ledaenu negeseuon
Y boblogaeth symudol, y rhai sy'n rhentu'n breifat a phreswyliaeth gymunedol
  • Ddim yn ymwybodol bod angen cofrestru/newid manylion
  • Wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth
  • Blaenoriaethau eraill
  • Partneriaid yn helpu i ledaenu negeseuon
Pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig lle na cheir lefelau cofrestru digonol
  • Wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth
  • Efallai na fydd preswylwyr newydd yn ymwybodol o'u hawliau
  • Partneriaid yn helpu i ledaenu negeseuon
  • Hysbysebion lleol mewn mannau lle ceir dwysedd uwch o'r boblogaeth darged
Pobl ag anableddau a gofynion cyfathrebu penodol
  • Methu â defnyddio sianeli cyfathrebu prif ffrwd
  • Efallai bod rhai yn dibynnu ar ofalwyr i dderbyn a dychwelyd post
  • Efallai y bydd angen help arnynt i gwblhau ffurflenni 
  • Angen llunio gohebiaeth hygyrch
  • Nifer fawr ohonynt yn defnyddio darparwyr gwasanaethau, gan gynnig sianeli cyfathrebu posibl
  • Potensial i gyrraedd gofalwyr a'r rhai sy'n dylanwadu arnynt
Y rhai dros 80 oed
  • Dim llawer o ddefnydd o'r rhyngrwyd
  • Yn ei chael hi'n anodd cyrraedd blwch post
  • Efallai eu bod yn dibynnu ar ofalwyr i dderbyn a dychwelyd post
  • Efallai y bydd angen help arnynt i gwblhau ffurflenni
  • Llai o amlygiad i hysbysebion awyr agored 
  • Nifer fawr ohonynt yn defnyddio darparwyr gwasanaethau, gan gynnig sianeli cyfathrebu posibl
  • Potensial i gyrraedd gofalwyr a'r rhai sy'n dylanwadu arnynt
Cartrefi sydd wedi ymddieithrio; pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET)
  • Wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth
  • Diffyg ffydd mewn awdurdod
  • Yn ei chael hi'n anodd cwblhau ffurflenni
  • Ddim yn ymwneud â sefydliadau
  • Nifer fawr ohonynt yn defnyddio gwasanaethau penodol, gan gynnig sianeli cyfathrebu posibl
  • Yn cael eu dylanwadu gan eu cymheiriaid
  • Y potensial i gael eu cymell
Lefel isel o lythrennedd neu ddealltwriaeth o'r Gymraeg neu'r Saesneg
  • Ddim yn ymwybodol o'u hawliau
  • Yn ei chael hi'n anodd cwblhau ffurflenni
  • Darparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill
  • Partneriaid yn helpu i ledaenu negeseuon ac yn cynnig cymorth i gwblhau ffurflenni
  • Gwybodaeth ar gyfryngau yn ieithoedd y byd
Pobl ddigartref a theithwyr
  • Yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ffurflenni a'u cwblhau 
  • Partneriaid yn helpu i ledaenu negeseuon ac yn cynnig cymorth i gwblhau ffurflenni
Preswylwyr mewn ardaloedd gwledig iawn
  • Llai o amlygiad i wasanaethau canolog
  • Llai o amlygiad i hysbysebion awyr agored
  • Partneru â grwpiau cymunedol
  • Sianeli cyfathrebu gwledig
  • Yn dibynnu ar ystod grynodedig o wasanaethau
Gwladolion tramor
  • Ddim yn ymwybodol o'u hawliau
  • Ddim yn ymwybodol bod angen iddynt gofrestru
  • Yn ei chael hi'n anodd cwblhau ffurflenni
  • Darparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill
  • Partneriaid yn helpu i ledaenu negeseuon
  • Hysbysebion lleol mewn mannau lle ceir dwysedd uwch o'r boblogaeth darged

  

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024