Nodi darpar gynulleidfaoedd targed ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd
Nodi darpar gynulleidfaoedd targed ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd
Dylech ddefnyddio ffynonellau data, fel data o'ch awdurdod lleol a'r cyfrifiad, i lunio proffil manwl o gyfansoddiad eich ardal gofrestru. Dylech adolygu hyn yn rheolaidd ac ystyried unrhyw ddata ychwanegol.
Mae'n bosibl y bydd eich awdurdod lleol yn cadw gwybodaeth ddemograffig am breswylwyr ac yn diweddaru'r wybodaeth honno'n rheolaidd gan gynnwys:
y mathau o weithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt
y gwasanaethau a ddefnyddir ganddynt
eu hagweddau
eu dewis ddulliau o gyfathrebu
y mannau lle y mae grwpiau gwahanol wedi'u clystyru'n ddaearyddol
Mae rhai awdurdodau yn defnyddio systemau dosbarthu defnyddwyr hefyd i nodi'r mathau o bobl yn eu hardal er mwyn iddynt allu defnyddio eu hadnoddau'n effeithiol i dargedu grwpiau â gwybodaeth berthnasol.
Mae'n bosibl y bydd grwpiau targed wedi'u dosbarthu'n gyfartal ym mhob rhan o'r awdurdod, er enghraifft cyrhaeddwyr, ond y bydd eraill, megis myfyrwyr neu'r rhai sy'n rhentu'n breifat, o bosibl wedi crynhoi o fewn wardiau neu gymdogaethau penodol.
Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn, mae pobl o'r grwpiau canlynol yn llai tebygol o fod wedi cofrestru:
pobl iau (o dan 35 oed)
y rhai sy'n rhentu'n breifat
pobl o grwpiau o bobl dduon, ethnigrwydd cymysg neu ethnigrwydd arall
dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad
y rhai yr ystyrir eu bod ar ben isaf y raddfa economaidd-gymdeithasol
Mae ein gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod cofrestru pobl ifanc, a chyrhaeddwyr yn benodol, yn dal i fod yn her. Mae'n bosibl y gallai archwilio data gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth a allai eich helpu i nodi darpar etholwyr a all fod yn gymwys i gofrestru fel cyrhaeddwyr.
Dylai eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd gynnwys sut y byddwch yn ymgysylltu â chyrhaeddwyr yn eich ardal. Dylai gweithio gydag ysgolion a cholegau yn eich ardal i dargedu'r darpar etholwyr hyn fod yn faes allweddol o'ch gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae'n bosibl y gallwch ddefnyddio eich profiadau eich hun neu brofiadau pobl eraill o ymgysylltu â phobl ifanc hyd yma a defnyddio unrhyw wersi a ddysgwyd i lywio eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol cysylltu ag awdurdodau eraill â grwpiau targed tebyg er mwyn rhannu profiadau a deall yr hyn sydd wedi gweithio iddyn nhw yn ymarferol. Dylech adolygu demograffeg eich ardal gofrestru yn barhaus er mwyn nodi grwpiau eraill lle na cheir lefelau cofrestru digonol.