Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd
Dim ond os yw’r ymgyrchydd di-blaid yn trefnu bod y deunydd ymgyrchu ar gael i’r cyhoedd neu unrhyw adran o’r cyhoedd y bydd deunydd ymgyrchu yn cael ei reoleiddio.
Mae’r cwestiwn a yw’r deunydd ar gael yn gyhoeddus ai peidio yn cael ei benderfynu yn ôl pwy sydd â mynediad at y deunydd hwnnw:
- Deunydd ymgyrchu y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd
- Bydd deunydd ymgyrchu sydd ar gael i’r cyhoedd neu adran o’r cyhoedd ei glywed neu ei weld yn ddeunydd cyhoeddus a bydd yn weithgaredd ymgyrchu sy’n cael ei reoleiddio os yw hefyd yn bodloni’r prawf diben ac yn digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir. Mae hyn yn berthnasol ni waeth sut mae'r deunydd yn cael ei ddosbarthu.
- Deunydd ymgyrchu y trefnir ei fod ar gael i bobl sydd wedi dewis derbyn yr wybodaeth yn unig
- Ni fydd deunydd ymgyrchu y mae’r ymgyrchydd di-blaid yn trefnu ei fod ar gael i grŵp caeedig o aelodau neu bobl sydd wedi dewis derbyn yr wybodaeth yn unig yn cael ei reoleiddio.
Pan fo mynediad at ddeunydd ymgyrchu wedi’i gyfyngu yn y fath fodd fel na fyddai’r cyhoedd yn gallu cael mynediad at y deunydd hwnnw, nid gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yw hwn. Mae hyn yn berthnasol ni waeth sut mae’r deunydd yn cael ei ddosbarthu, er enghraifft trwy brint neu’n ddigidol.
Pan fo mynediad at ddeunydd ymgyrchu wedi’i gyfyngu gan yr ymgyrchydd di-blaid i grŵp o bobl sydd wedi cofrestru i dderbyn y deunydd hwnnw, ni fydd y gweithgareddau hynny’n cael eu rheoleiddio. Er enghraifft, pan fo’r mynediad wedi’i gyfyngu i aelodau, neu gefnogwyr, ni fydd hyn yn cael ei reoleiddio.
Deunydd sydd wedi'i gyfyngu i bobl benodol
Deunydd sydd wedi'i gyfyngu i bobl benodol
Nid ystyrir bod deunydd rydych yn ei gyfyngu fel mai dim ond pobl sydd wedi dewis ei dderbyn sy'n gallu ei weld ar gael i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd.
Enghraifft
Gallai hyn gynnwys deunydd ymgyrchu ar ffurf cylchlythyr rydych ond yn ei anfon at bobl sydd wedi cofrestru i gael diweddariadau gennych, sydd wedi ymuno â'ch cynllun aelodaeth neu sydd wedi rhoi arian i'ch ymgyrch. Nid yw'r deunydd ymgyrchu hwn ar gael yn unrhyw le arall.
Gwefannau a blogiau
Gwefannau a blogiau
Ystyrir bod cynnwys gwefannau, gan gynnwys blogiau, ar gael i'r cyhoedd os nad oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gael gafael ar y cynnwys. Caiff ei reoleiddio os:
- bydd yn cynnwys deunydd y gellir ystyried yn rhesymol ei fod wedi'i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr
- bydd yn cael ei hysbysebu (neu ei hyrwyddo fel arall) i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, mewn perthynas â'ch ymgyrch
Gall gwaith hysbysebu neu hyrwyddo gynnwys:
- rhoi cyfeiriad y wefan fel ffynhonnell i gael mwy o wybodaeth am ddeunydd ymgyrchu arall, neu mewn gohebiaeth arall fel e-byst sy'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf
- sicrhau bod y wefan yn ymddangos yn uwch ar restr canlyniadau peiriant chwilio
- rhoi dolenni ar wefannau eraill
- marchnata feirol wedi'i drefnu neu weithgareddau tebyg
Enghraifft
Rydych yn cynhyrchu graffigyn yn ystod y cyfnod a reoleiddir ac rydych yn annog eich cefnogwyr i'w rannu ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at eich sefydliad. Mae'r graffigyn yn cynnwys dolen i dudalen gyhoeddus ar eich gwefan lle gall pobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich ymgyrch. Rydych wedi asesu bod y graffigyn a'r wefan yn bodloni'r prawf diben.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y wefan na'r graffigyn o ran pwy all gael gafael arnynt ac felly ystyrir eu bod ar gael i'r cyhoedd. Gan fod y deunydd hefyd yn bodloni'r prawf diben, caiff ei ystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
I'r gwrthwyneb, os byddwch yn rhoi deunydd ar eich gwefan sydd ond ar gael i bobl rydych yn anfon y ddolen atynt, er enghraifft, y rhai sydd wedi ymuno â'ch rhestr e-bostio, nid ystyrir bod y deunydd hwn ar gael i'r cyhoedd. Yn y senario hon, ni fydd y deunydd yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir felly.
Cyfryngau cymdeithasol
Cyfryngau cymdeithasol
Mae deunydd ymgyrchu a gyhoeddir ar y cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i unrhyw un ei weld wedi'i ddarparu i'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys deunydd ymgyrchu sy'n enwi neu'n targedu rhan benodol o'r cyhoedd, er enghraifft ymgyrchoedd sydd wedi'u hanelu at breswylwyr ardal benodol, neu bobl sy'n aelodau o grwpiau neu rwydweithiau penodol.
Fodd bynnag, nid yw cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'i gyfyngu i grŵp penodol o bobl ac na all unrhyw aelod o'r cyhoedd gael gafael arno, wedi cael ei ddarparu i'r cyhoedd. Er enghraifft, mae'n debygol na fyddai deunydd ymgyrchu a rennir ar grŵp Facebook caeedig neu gyfrif X (Twitter gynt) preifat yn cael ei reoleiddio am y rheswm hwn.
Er mwyn asesu a fydd deunydd ymgyrchu a ddarperir i'r cyhoedd gennych ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei reoleiddio, bydd angen i chi ystyried a yw hefyd yn bodloni'r prawf diben.
Os bydd gwariant ar y cyfryngau cymdeithasol ar gael i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, ac yn bodloni'r prawf diben, rhaid i chi gyfrif am gost llunio, diweddaru a dosbarthu'r deunydd hwn. Mewn sawl achos, mân gostau fydd ynghlwm wrth gyhoeddi deunydd ar safle cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft anfon trydariad neu ddiweddaru tudalen Facebook.
Newspapers and periodicals
Papurau newydd a chyfnodolion
Nid yw'r gwaith o lunio na chyhoeddi unrhyw gynnwys – heblaw am hysbyseb – mewn papur newydd neu gyfnodolyn (gan gynnwys fersiynau ar-lein o bapurau newydd a chyfnodolion) yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. 1
Fodd bynnag, os byddwch yn hysbysebu mewn papur newydd neu gyfnodolyn, caiff yr hysbyseb ei rheoleiddio os bydd ar gael i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, ac yn bodloni'r prawf diben. Enghraifft o hyn fyddai hysbyseb rydych yn ei rhoi mewn cylchlythyr lleol yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros grŵp o ymgeiswyr.
- 1. Atodlen 8A, para. 2(1)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1