Darperir swyddfa i chi er mwyn cynnal eich ymgyrch yn rhad ac am ddim, a byddwch yn ei defnyddio am dri allan o bedwar mis o’r cyfnod a reoleiddir. Rhaid i chi roi gwybod am swm priodol o wariant tybiannol yn seiliedig ar y defnydd a wneir o’r swyddfa:
Cost rhent arferol y mis ar gyfer y swyddfa: £1,200
Os ydych chi wedi derbyn eitem, nwyddau neu wasanaeth am ostyngiad anfasnachol, rhaid adrodd gwerth y gostyngiad fel gwariant tybiannol a’r swm rydych chi’n ei dalu fel taliad a wnaed gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid. Cyfanswm y ddau werth fydd cyfanswm gwerth yr eitem.
Er enghraifft, darperir gwasanaethau ymgynghori ymgyrchoedd i chi am bris gostyngol anfasnachol. Mae’r darparwr yn cynnig gostyngiad o 15% i chi oddi ar y gyfradd maen nhw’n ei chodi ar gleientiaid eraill, ac rydych chi’n defnyddio eu gwasanaethau yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Rhaid i chi roi gwybod am swm priodol o wariant tybiannol yn seiliedig ar y defnydd o’r gwasanaethau ymgynghori:
Cyfradd fasnachol ar gyfer y gwasanaethau ymgynghori: £8,000
Swm a godwyd arnoch ac i’w adrodd fel taliad a wnaed gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid: £6,800 (£8,000 - £1,200)