Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Enghreifftiau o ymgyrchoedd ar y cyd
Gweithgarwch sy’n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n cymryd rhan yn y rhestr ganlynol o weithgarwch yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- cynnal ymgyrch hysbysebu ar y cyd, sy’n cynnwys taflenni ar y cyd neu ddigwyddiadau ar y cyd
- rhedeg ymgyrch gydlynol. Er enghraifft, pan gytunir pa feysydd sydd i’w cwmpasu, pa faterion sydd i’w codi neu ba bleidleiswyr sydd i’w targedu
- gweithio ar y cyd lle gall un parti wrthod neu gymeradwyo deunydd yr ymgyrchydd arall
Er enghraifft, mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw am system bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn etholiadau’r Senedd. Mae ymgyrch y sefydliad cyntaf yn canolbwyntio ar addysgu pleidleiswyr ar y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ac mae’r ail ymgyrch yn anelu at annog y cyhoedd i gefnogi dim ond ymgeiswyr a phleidiau sydd o blaid cynnal a mabwysiadu diwygiadau cynrychiolaeth gyfrannol pellach yn etholiadau’r Senedd.
Yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’r ddau ymgyrchydd yn penderfynu lansio ymgyrch gyda’i gilydd gyda’r bwriad o hyrwyddo pleidiau sydd o blaid Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. At ddibenion yr enghraifft hon, mae’r ymgyrch gynlluniedig hon yn cynnwys gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Maen nhw’n codi £1,000 yr un gyda’r bwriad o wario’r arian hwn gyda’i gilydd ar yr ymgyrch.
Maen nhw’n cynllunio’r ymgyrch drwy gytuno ar bum nod allweddol ac amserlen ar gyfer yr ymgyrch, sy’n cynnwys ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar eu dau blatfform a digwyddiadau wyneb yn wyneb maen nhw’n eu cynnal gyda’i gilydd. Mae’r timau y tu ôl i’r ymgyrchoedd ill dau yn cytuno ar gynnwys y deunydd cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Gweithgarwch nad yw’n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n cymryd rhan yn y rhestr ganlynol o weithgarwch yn annhebygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- cymeradwyo ymgyrch arall drwy ganiatáu i’ch logo/brand gael ei ddefnyddio heb ddim ymrwymiad ariannol na chyfranogiad pellach.
- ychwanegu’ch llofnod at lythyr ochr yn ochr ag ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau heb ddim ymrwymiad ariannol
- siarad yn rhydd mewn digwyddiad a drefnwyd gan ymgyrchydd arall nad yw’n blaid heb ddim ymrwymiad ariannol
- cynnal trafodaethau am feysydd o ddiddordeb cyffredin heb gydgysylltu gweithgarwch ymgyrchu
- benthyca eitemau i neu roi rhoddion i ymgyrchydd arall nad yw’n blaid (Gweler yr adrannau ar wariant tybiannol a rhoddion).
Enghraifft A
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw am system bleidleisio pleidlais sengl drosglwyddadwy yn etholiadau’r Senedd. Nod y ddau sefydliad yw annog pleidiau gwleidyddol i hyrwyddo system bleidlais drosglwyddadwy sengl.
Mae’r sefydliad cyntaf yn sefydlu deiseb lle maen nhw’n gofyn i bobl ychwanegu eu henw i alw ar y Senedd i ymrwymo i system bleidlais sengl drosglwyddadwy. Maen nhw’n gofyn i’r ail sefydliad lofnodi’r ddeiseb a’i rhannu gyda’u cefnogwyr. Ar ôl i’r ddeiseb gau, maen nhw hefyd yn gofyn i’r ail sefydliad ychwanegu eu henw at lythyr agored maen nhw’n ei roi mewn papurau newydd sy’n galw ar bleidleiswyr i gefnogi pleidiau o blaid Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy yn etholiad y Senedd sydd i ddod.
Yn y senario hwn, er bod y llythyr agored yn weithgarwch a reoleiddir, nid yw’r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun na threfniant gyda’i gilydd ac nid oes unrhyw fwriad i’r ddau ymgyrchydd wario arian. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.
Enghraifft B
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu polisïau penodol ar newid hinsawdd. Mae’r sefydliad cyntaf yn galw ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi ymrwymo i’r materion y maent wedi’u nodi, ac mae’r sefydliad yn gofyn i’r ail sefydliad rannu eu deunydd a hyrwyddo eu hymgyrch ar X/Twitter a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae’r ail sefydliad yn cytuno i roi cyhoeddusrwydd i waith y sefydliad cyntaf ond nid yw’n cynnal unrhyw wariant cydlynol nac unrhyw ymgyrchu a reoleiddir eu hunain.
Yn y senario hwn, mae’r sefydliad cyntaf yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Rhaid i’r ail sefydliad asesu a ydynt wedi gwario unrhyw arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Er bod yr ail sefydliad wedi rhannu deunydd etholiad y sefydliad cyntaf â’u dilynwyr, nid yw’r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun na threfniant i ysgwyddo gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir gyda’i gilydd. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.
Enghraifft C
Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi addo cyflwyno deddfau i amddiffyn tenantiaid. Maent yn nodi ymgyrchwyr ac elusen sydd â nodau cyffredin ac yn hyrwyddo’r sefydliadau hyn i’w cefnogwyr ac yn gyhoeddus ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw hefyd yn rhoi rhodd i un o’r ymgyrchwyr eraill sy’n cefnogi tenantiaid.
Yn y senario hwn, mae’r sefydliad yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Hyd yn oed os yw’r sefydliadau eraill y maent wedi’u hyrwyddo hefyd yn gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, nid oes unrhyw ymrwymiad ariannol na gwariant cydlynol rhwng unrhyw un o’r ymgyrchwyr.
Yn ogystal, nid yw rhodd yn golygu bod ymgyrchwyr yn gweithio (neu’n gwario arian) gyda’i gilydd. Mae’n ofynnol i bob sefydliad asesu’n unigol a ydynt yn gwario arian ar unrhyw weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.