Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw ymgyrchu ar y cyd?

Mae ymgyrchydd nad yw’n blaid yn cymryd rhan mewn ymgyrchu ar y cyd pan fo’r egwyddorion allweddol canlynol yn berthnasol:

  • yn ymrwymo i gynllun neu drefniant arall gydag un neu fwy o ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau
  • mae’r holl ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n rhan o’r cynllun neu’r trefniant yn bwriadu gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant hwnnw
  • mae un neu fwy o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau dan sylw yn ysgwyddo gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o’r cynllun neu’r trefniant, a
  • yn rhesymol ystyried bod y cynllun neu’r trefniant hwnnw yn un sydd â’r bwriad o gyflawni diben cyffredin.1

Rydym yn cydnabod y gall ymgyrchwyr ddod ynghyd i ymgyrchu mewn nifer o ffyrdd, yn ffurfiol ac anffurfiol, a bod y modd y mae ymgyrchwyr yn rhyngweithio gydag ymgyrchwyr eraill yn gallu newid yn ystod ymgyrch.

Os ydych chi’n ystyried cychwyn ymgyrch ar y cyd ac eisiau cyngor, neu os ydych chi’n ansicr a ydych chi ac ymgyrchydd arall yn gweithio gyda’ch gilydd fel rhan o ymgyrch ar y cyd, gallwch anfon e-bost atom neu ein ffonio am gyngor.

Rhaid cael mwy nag un ymgyrchydd nad yw’n blaid

Er mwyn i’r rheolaethau ymgyrchu ar y cyd fod yn berthnasol, rhaid bod mwy nag un ymgyrchydd nad yw’n blaid yn gysylltiedig.

Nid yw bod yn rhan o grŵp neu sefydliad ymbarél lle mae’r sefydliadau’n gwneud penderfyniadau am eu gweithgarwch ymgyrchu’n annibynnol yn ymgyrchu ar y cyd gan nad oes cynllun na threfniant rhwng ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. 

Ni fydd sefydlu sefydliad neu grŵp newydd o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i wario arian ar ymgyrchu yn ymgyrchu ar y cyd oni bai bod yr egwyddorion allweddol a amlinellir uchod yn berthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Sefydlu sefydliad newydd.

Rhaid bod bwriad cytunedig i wario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o’r trefniant

Os nad oes bwriad i wario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, nid oes ymgyrchu ar y cyd. Er enghraifft, os ydych yn cytuno y bydd pob gweithgarwch yn cael ei gyflawni gan wirfoddolwyr, fydd dim gwariant a fydd dim ymgyrchu ar y cyd.

Rhaid bod cyd-ddealltwriaeth o ran cwmpas a diben yr ymgyrch

Nid yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n digwydd ymgyrchu am faterion tebyg neu gysylltiedig yn ymgyrchwyr ar y cyd.

Mae’n rhaid i un neu fwy o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ysgwyddo gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o’r cynllun neu’r trefniant, sy’n cael ei drin fel gwariant ar ran yr holl ymgyrchwyr

Bydd yr holl wariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a wneir fel rhan o’r cynllun neu’r trefniant yn dod o fewn y rheolau ymgyrchu ar y cyd. Hyd yn oed os bydd un o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymwneud â’r cynllun neu’r trefniant yn peidio ysgwyddo’i siâr o’r gwariant y cytunwyd arno, bydd unrhyw wariant a ysgwyddir yn dal i fod yn ymgyrchu ar y cyd a gall fod yn adroddadwy gan bob ymgyrchydd nad yw’n blaid.

Dim ond gwariant y cytunwyd arno fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd sy’n cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau sy’n rhan o’r cynllun ar y cyd. Ni fydd unrhyw wariant sy’n mynd y tu hwnt i’r cynllun neu’r trefniant y cytunwyd arno, neu sy’n cael ei wneud y tu allan iddo, yn cael ei gyfrif fel ymgyrchu ar y cyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025