Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Gwariant ac adrodd

Sut y gellir strwythuro ymgyrchoedd ar y cyd

Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi strwythuro eich ymgyrch ar y cyd:

  • gallwch fod yn gweithio gydag ymgyrchwyr eraill fel ‘ymgyrchydd ar y cyd cyffredin’
  • gallwch fod yn rhan o ymgyrch ar y cyd fel ‘prif ymgyrchydd’ neu ‘ymgyrchydd llai’. Rydym yn galw ymgyrch sydd â phrif ymgyrchydd yn ‘brif ymgyrch’
  • gallai eich ymgyrch ar y cyd fod yn gyfuniad o’r ddau 

Gall y ffordd rydych chi’n strwythuro’ch ymgyrch ar y cyd effeithio ar ba wariant sy’n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant, a’r hyn y mae’n rhaid i chi ei adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025