| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid

Y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n gyfrifol am weinyddu'r broses enwebu yn yr etholiad, a bydd yn darparu pecynnau enwebu i unrhyw un sy'n mynegi diddordeb mewn sefyll

Fel Swyddog Canlyniadau Lleol, chi sy'n gyfrifol am gynnal yr etholiad yn eich ardal bleidleisio, h.y. ardal eich awdurdod lleol. 

Dylai'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu sicrhau bod gwybodaeth am y broses etholiadol a gwariant etholiadol ar gael yn hawdd i ymgeiswyr ac asiantiaid. Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar gam cynnar er mwyn deall ei gynlluniau ar gyfer cydlynu gwaith ymgysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid a rhannu gwybodaeth â nhw fel y gallwch adlewyrchu hyn yn eich gwaith cynllunio eich hun, fel y bo'n briodol, a bod yn barod i ymateb i ymholiadau gan ymgeiswyr ac asiantiaid yn yr etholiad.

Dylech gydweithio â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu er mwyn pennu pa wybodaeth am brosesau lleol y bydd ei hangen arno i'w rhannu ag ymgeiswyr ac asiantiaid, a chytuno ar y ffordd orau o rannu'r wybodaeth hon. Dylai'r wybodaeth gael ei rhoi mewn da bryd er mwyn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i weithredu arni.

Briffio a rhoi gwybodaeth am drefniadau lleol 

Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu hefyd ofyn am i sesiynau briffio lleol gael eu cynnal. Dylai'r sesiynau briffio hyn ymdrin â'r prosesau allweddol yr etholiad rydych yn gyfrifol amdanynt: 

  • Amseriadau dosbarthu ac agor pleidleisiau post a'r lleoliad
  • Y diwrnod pleidleisio 
  • Cyfarpar a ddarperir mewn gorsafoedd pleidleisio sy'n ei gwneud yn haws i bobl anabl bleidleisio
  • Amseriad a lleoliad y broses dilysu a chyfrif 
  • trin pleidleisiau post

Pa ddull bynnag y byddwch yn cytuno arno â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar gyfer rhannu'r wybodaeth, dylech sicrhau y gall ymgeiswyr ac asiantiaid gael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn yr etholiad.

Rhoi gwybodaeth ysgrifenedig

Dylech gydweithio â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu er mwyn sicrhau y caiff pob ymgeisydd ac asiant yn yr etholiad ganllawiau ysgrifenedig ar y prosesau etholiadol, gan gynnwys gwybodaeth am drefniadau lleol. Dylai'r wybodaeth gael ei rhoi mewn da bryd er mwyn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i weithredu arni.

Bydd trefniadau lleol yn cynnwys gwybodaeth am y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau ar gyfer y prosesau etholiadol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
• anfon ac agor pleidleisiau post
• pleidleisio
• dilysu a chyfrif pleidleisiau

Pa ddull bynnag y byddwch yn cytuno arno â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar gyfer rhannu'r wybodaeth, dylech sicrhau y gall ymgeiswyr ac asiantiaid gael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn yr etholiad.

Hygyrchedd

Dylech gofio bod gan ymgeiswyr ac asiantiaid o bosibl anghenion mynediad penodol, ac felly efallai y bydd angen unrhyw wybodaeth neu ganllawiau arnynt a luniwyd ar ffurf print bras neu fformat arall, megis Braille neu sain, neu mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru.

Os ydych yn cynnal sesiynau briffio'n lleol, dylech hefyd ystyried y gall fod gan ymgeiswyr ac asiantiaid ofynion arbennig i'w helpu i ddod i sesiynau briffio a dylech sicrhau bod sesiynau briffio ar gael ar-lein neu drwy fideogynadledda lle bynnag y bo'n bosibl. 

Gallwch recordio eich sesiwn friffio a'i phostio ar-lein er mwyn i ymgeiswyr ac asiantiaid ei gwylio ar alw ar adeg sy'n gyfleus iddynt, gyda manylion ynghylch sut y gallant ofyn unrhyw gwestiynau dilynol.

Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried sut y gallwch gynnig sesiynau briffio i'r rhai na allant gael gafael ar wybodaeth o'r fath ar-lein, neu'r rhai nad ydynt yn gyfforddus yn gwneud hynny. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhai sesiynau briffio yn bersonol. Dylech hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am eich dull gweithredu arfaethedig yn gynnar er mwyn eich helpu i gynllunio a pharatoi. Dylid gofyn i'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn friffio gofrestru ymlaen llaw er mwyn i chi allu olrhain niferoedd yn ogystal â gofynion hygyrchedd, a fydd yn eich galluogi i deilwra eich dull gweithredu a rhoi'r trefniadau priodol ar waith.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024