| Argraffu'r canllawiau llawn

Asesu a rheoli'r risg o dwyll etholiadol

Er nad oes unrhyw arwyddion pendant o dwyll etholiadol posibl, bydd angen i chi sicrhau bod systemau ar waith i nodi unrhyw batrymau o weithgarwch a allai awgrymu achos posibl o dwyll etholiadol. Dylech fod yn ymwybodol o'r holl ddata sydd ar gael i chi, a dylech ystyried y data hynny, gan gynnwys:

  • a fu unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau cofrestru neu bleidleisiau absennol mewn etholiadau blaenorol
  • a fu unrhyw batrymau anarferol o ran papurau pleidleisio a wrthodwyd, gan gynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd, mewn etholiadau blaenorol
  • a fu unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau i gofrestru neu geisiadau am bleidleisiau absennol yn y cyfnod cyn yr etholiad

Mae genym hefyd ganllawiau ar nodi:

Rydych mewn sefyllfa unigryw i nodi achosion a phatrymau gweithgarwch a allai fod yn arwydd o dwyll etholiadol yn eich ardal. Gallai cymryd camau cynnar i fynd i'r afael ag achosion posibl o dwyll helpu i osgoi ymchwiliadau costus gan yr heddlu neu heriau cyfreithiol i ganlyniadau'r etholiadau. 

Dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i asesu'r risg o dwyll etholiadol yn eich ardal bleidleisio, gan gynnwys ystyried:

  • a fu hanes o honiadau o dwyll etholiadol yn yr ardal 
  • a yw'r etholiad yn debygol o fod yn arbennig o agos ac wedi'i ymladd yn galed
  • ai sedd ymylol ydyw, lle mai dim ond newid cymharol fach sydd ei angen yn nifer y pleidleisiau er mwyn newid rheolaeth 
  • a oes unrhyw frwydr sy'n seiliedig ar anghytundebau personol cryf yn ogystal â dadleuon gwleidyddol
    risgiau lle ceir poblogaeth symudol iawn lle mae nifer yr etholwyr yn newid yn aml
  • risgiau lle ceir etholwyr a all fod yn fwy agored i niwed oherwydd lefelau isel o lythrennedd a/neu allu o ran Cymraeg/Saesneg
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023