Ar ôl ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau, heddluoedd a phleidiau gwleidyddol, mae'r Comisiwn wedi llunio Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr yn ystod etholiadau a refferenda. Mae'r cod yn gymwys i bob ymgyrchwr, ac mae'n nodi safonau ymddygiad priodol y cytunwyd arnynt cyn ac yn ystod etholiad neu refferendwm.
Mae'r Cod hefyd yn ei gwneud yn glir, os bydd Swyddog Canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol mynd i'r afael â risgiau lleol penodol eraill, a'i fod wedi ymgynghori â'r pleidiau cenedlaethol a lleol perthnasol, y byddwn yn ei helpu i gyflwyno darpariaethau lleol ychwanegol sy'n mynd y tu hwnt i delerau'r cod y cytunwyd arno'n genedlaethol.
Mae'r Cod hefyd yn ymdrin â'r gofyniad i ddangos prawf adnabod ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio. Gwnaethom ymgynghori â'r pleidiau gwleidyddol sy'n aelodau o Banel Pleidiau Seneddol San Steffan ar y diweddariad hwn i'r cod.