Darparu gwybodaeth i etholwyr ynghylch lleoliadau gorsafoedd pleidleisio
Mae ‘Ble mae fy ngorsaf bleidleisio?’ yn gwestiwn cyffredin yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio ac ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadau yn gyfrifol am gynnal a gweithredu llwyfan wybodaeth yr etholiadau a fydd yn rhoi gwybodaeth ynghylch gorsafoedd pleidleisio a hygyrchedd. Bydd modd chwilio yn ôl cod post ac ardal etholiadol. Bydd y Bwrdd Rheoli Etholiadol yn cynnig gwybodaeth ynghylch y fformat a'r broses ar gyfer darparu'r wybodaeth hon. Am ragor o wybodaeth, gweler ei wefan.
Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu teclyn chwilio yn ôl cod post ar ein gwefan. Pan fydd pleidleiswyr yn nodi eu cod post, dangosir iddynt lle mae'r orsaf bleidleisio, a phwy yw eu hymgeiswyr. Gallech fewnosod yr adnodd hwn ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn, neu ychwanegu dolen at ein gwefan ni.
Er mwyn hwyluso hyn, mae angen i chi anfon data yr orsaf bleidleisio ar gyfer eich ardal chi at Democracy Club. Ar ôl i chi gadarnhau eich gorsafoedd pleidleisio cyn yr etholiad, gallwch allgludo’r data o’ch System Rheoli Etholiad a’i anfon drwy e-bost i [email protected] (yn agor mewn ffenestr newydd). Mae yna gyfarwyddiadau manwl ar gael i bob cyflenwr, os oes eu hangen arnoch.
Rydym hefyd yn darparu eich manylion cyswllt yn ein hadnodd chwilio yn ôl cod post. Os bydd eich manylion cyswllt yn newid, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion.