Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Ymgysylltu â phleidleiswyr
Rhaid i chi gymryd camau priodol i annog etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiadau, ac wrth gyflawni gweithgarwch o’r fath rhaid i chi roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn Etholiadol.1 Dylai rhan o’r gweithgarwch ymgysylltu hwn gynnwys sut fyddwch yn cyfleu’r broses bleidleisio a’r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr anabl. Dylai hyn fod yn uniongyrchol gyda sefydliadau anabledd lleol a chyfeirio mwy cyffredinol at gyfathrebiadau hygyrch, fel darparu fersiynau ar-lein o ddogfennau hawdd eu darllen, sy’n gydnaws â rhaglenni darllen sgrin, neu sydd ar gael mewn print bras.
Bydd yn ofynnol i chi hefyd ddarparu gwybodaeth i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol er mwyn eu cynnwys yn y platfform gwybodaeth etholiadol.
Os nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu â nhw i sicrhau bod eich holl weithgareddau yn cyd-fynd â'i gilydd a'u bod wedi’u cynllunio i gael yr effaith fwyaf cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Am ragor o wybodaeth ynghylch ymgysylltu fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, darllenwch ein canllawiau ynghylch eich strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd a’ch cynllun cofrestru.
Dylai eich gweithgarwch a’ch negeseuon geisio sicrhau bod gan bawb sydd eisiau pleidleisio y wybodaeth i wneud hynny, a’u bod yn gallu pleidleisio gan ddefnyddio’r dull sydd orau ganddynt. Dylai pob gohebiaeth sy’n mynd allan ddarparu manylion cyswllt priodol er mwyn i unrhyw un allu ymateb a chael rhagor o wybodaeth. Dylid cyflawni unrhyw weithgarwch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn gyfartal yn y Gymraeg a Saesneg.
Wrth gynllunio eich gweithgarwch ymwybyddiaeth gyhoeddus, dylech ystyried a dogfennu:
- adnabod eich cynulleidfa darged
- amcanion a mesurau llwyddiant y gweithgarwch
- risgiau a sut mae lleddfu'r risgiau hynny
- adnoddau - ariannol a staffio
- cynlluniau ar gyfer cydweithio â phartneriaid lleol perthnasol, gan gynnwys arbenigwyr yn adran gyfathrebu’r awdurdod lleol
Etholaethau trawsffiniol
Os yw etholaeth yn cwmpasu mwy nag un ardal awdurdod lleol, dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol a staff etholiadol awdurdodau lleol eraill er mwyn datblygu cynllun cydlynol ar gyfer gweithgarwch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar draws yr etholaeth
Dylech nodi’r dulliau mwyaf effeithiol i sicrhau bod eich gweithgarwch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl a’i fod yn darparu’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen ar etholwyr i’w galluogi i gymryd rhan yn yr etholiad. Dylech ddefnyddio eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol a dulliau traddodiadol fel hysbysfyrddau i gyfleu’r wybodaeth hon. Dylid cyflawni unrhyw wybodaeth angenrheidiol yn gyfartal yn y Gymraeg a Saesneg.
Gall gwybodaeth sy’n ofynnol gan etholwyr er mwyn cymryd rhan yn llwyddiannus gynnwys:
- manylion yr etholiad ei hun
- dyddiad ac oriau pleidleisio
- gwahanol opsiynau ar gyfer pleidleisio (e.e. mewn gorsaf bleidleisio, pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy)
- lleoliad gorsafoedd pleidleisio
- unrhyw ddyddiadau cau allweddol (e.e. dyddiadau cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio a gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy)
- sut i gofrestru i bleidleisio
- sut i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy
- sut i ddychwelyd eu pleidlais bost (e.e. drwy'r post neu wyneb yn wyneb mewn gorsaf bleidleisio neu i adeilad y cyngor)
- sut i bleidleisio (h.y. sut i farcio'r papur pleidleisio)
- y cymorth sydd ar gael i etholwyr a sut i ofyn am addasiadau rhesymol (e.e. offer i alluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio'n annibynnol yn yr orsaf bleidleisio) a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformatau eraill (e.e. Braille, hawdd ei ddarllen, print bras)
- sut gaiff pleidleisiau eu cyfrif a'r canlyniadau eu cyfrifo
- sut roddir gwybod am y canlyniad
Anfon e-gyfathrebiadau cyn yr etholiad
Yn ogystal ag anfon cardiau pleidleisio, dylech hefyd ystyried defnyddio unrhyw fanylion cyswllt eraill sydd gennych i anfon gwybodaeth ychwanegol am yr etholiad at etholwyr. Gallai hyn gynnwys defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn i anfon e-gyfathrebiadau at etholwyr.
Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu anfon e-gyfathrebiadau cyn i gardiau pleidleisio gael eu hanfon i roi gwybodaeth gyffredinol i etholwyr. Fel arall, efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio e-gyfathrebiadau i atgoffa etholwyr o derfynau amser ceisiadau pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy.
Bydd gofyn i chi greu cyfathrebiadau templed ymlaen llaw pan fyddwch yn defnyddio e-byst, negeseuon testun neu gyfathrebiadau electronig eraill.
Bydd angen i chi hefyd benderfynu a ddylid rheoli e-gyfathrebiadau yn fewnol neu drwy gyflenwr allanol, efallai y byddwch yn penderfynu cymryd gwahanol ddulliau ar gyfer gwahanol fathau o e-gyfathrebiadau. Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu data personol a ddefnyddir ar gyfer sianeli e-gyfathrebu gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth ar ddiogelu data.
Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd y Comisiwn
Yn y cyfnod cyn pleidleisiau a drefnir, mae'n bosibl y byddwn yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus i annog cofrestru. Bydd ymgyrch o’r fath fel arfer yn cynnwys hysbysebu ar gyfryngau torfol, gweithio gyda phartneriaid a gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus. Byddwn hefyd yn darparu adnoddau y gellir eu defnyddio’n lleol, fel posteri, baneri ar-lein, templedi o ddatganiadau i’r wasg a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn darparu cyfres o adnoddau a all eich helpu i hyrwyddo gwybodaeth ynghylch y broses bleidleisio a’r cymorth sydd ar gael i bobl anabl, gan gynnwys adnoddau a fydd yn eich cyfeirio at ganllawiau ynghylch cyfathrebu hygyrch. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ynghylch galluogi a gwneud pleidleisio’n haws mewn gorsafoedd pleidleisio.
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus drwy’r Bwletin Gweinyddwyr Etholiadol. Rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr cofrestru pleidleiswyr, Y Gofrestr, sy’n ceisio helpu timau cyfathrebu cynghorau lleol i gael y wybodaeth a’r adnoddau diweddaraf mewn perthynas â'r ymgyrch. Gallwch chi a thîm cyfathrebu eich cyngor gofrestru i gael y cylchlythyr yma.
Rydym hefyd yn darparu ffurflenni cais am bleidlais absennol i gefnogi etholwyr gyda’r broses o wneud cais am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy.
Ymholiadau sy’n deillio o weithgarwch ymwybyddiaeth gyhoeddus
Mae angen i chi ystyried sut fyddwch yn derbyn adborth ac ymholiadau a fydd yn deillio o’ch negeseuon ymwybyddiaeth gyhoeddus cyffredinol a gweithgarwch mwy penodol fel y cymorth penodol sydd ar gael i etholwyr anabl.
Er y bydd yn rhwydd rheoli’r rhan fwyaf o ymholiadau gan y cyhoedd drwy eich canolfan gyswllt neu eich staff cymorth, dylech gael proses glir ar gyfer ceisiadau am addasiadau rhesymol.
Gall ceisiadau gynnwys darparu hysbysiadau gorsaf bleidleisio mewn Braille, mewn fformat hawdd ei ddarllen neu mewn fformat darluniadol, neu wahanol fathau o offer neu gymorth i alluogi rhywun i bleidleisio’n annibynnol mewn gorsaf bleidleisio fel dyfeisiau sain neu ddolenni sain.
Bydd angen hyfforddi staff sy’n ymdrin â’r mathau hyn o ymholiadau i ddeall y rhwystrau y gall pleidleiswyr eu hwynebu, y gwahanol fathau o fformatau eraill ar gyfer gwybodaeth sydd ar gael a’r mathau o gyfarpar rydych chi’n eu darparu mewn gorsafoedd pleidleisio.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ynghylch rheoli ceisiadau am gymorth ychwanegol a chyfarpar i bleidleiswyr.
Dylech sicrhau bod pob gohebiaeth sy'n mynd allan yn cael ei darparu'n gyfartal yn Gymraeg a Saesneg a dylech gynnig manylion cyswllt priodol i ganiatáu i unrhyw un ymateb a cheisio rhagor o wybodaeth.
- 1. Adran 69(1) a (2), Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 ↩ Back to content at footnote 1