Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Costau llety a chostau gweinyddol

Swyddfa a chyfarpar

Mae hyn yn cynnwys cost rhentu swyddfa, gan gynnwys ardrethi busnes, ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, boed yn swyddfa a gaiff ei rhentu o'r newydd neu o dan gytundeb rhent presennol, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath swyddfa am ddim neu am bris gostyngol gan blaid wleidyddol neu drydydd parti.

Mae'n cynnwys cost swyddfa lle mae'r swyddfa honno yn cael ei rhannu. Mae'n rhaid dosrannu'r gost ac mae'n rhaid i swm, sy'n adlewyrchu'n rhesymol y defnydd gan yr ymgeisydd yn ystod yr ymgyrch, gael ei gynnwys yn y ffurflen i'r ymgeisydd. Bydd y swm hwn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.

Mae'n cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw gyfarpar swyddfa cyffredinol ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath gyfarpar am ddim neu am bris gostyngol gan blaid wleidyddol neu drydydd parti. 

Example

Er enghraifft, desgiau, cadeiriau a chyfrifiaduron a ddarperir gan blaid i'w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd.

N/A

Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:

  • ffonau symudol neu ddyfeisiau llaw eraill
  • y contractau cysylltiedig 

i'w defnyddio yn yr ymgyrch gan yr ymgeisydd, asiant ac unrhyw staff neu wirfoddolwyr, lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti yn talu am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig heblaw:

  • lle prynodd yr ymgeisydd y cyfarpar yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun ac nad yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol
  • mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun, nid yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol, ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio

Os byddwch yn ailsefyll fel Aelod Seneddol, dylech ddarllen canllawiau diddymu yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol i gael rhagor o wybodaeth am y defnydd o swyddfeydd neu gyfarpar TG a ariennir gan gyllid cyhoeddus at ddibenion ymgyrchu. 
 

Examples

Enghraifft A

Prynir cerdyn SIM â lwfans data a galwadau i ymgeisydd ar gyfer ei ymgyrch, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd

Enghraifft B

Defnyddir ffôn symudol gwirfoddolwr i gydlynu gwirfoddolwyr eraill, a chaiff cyfran o daliadau'r contract ei had-dalu gan yr ymgeisydd i'r gwirfoddolwr, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd

Enghraifft C

Mae'r ymgeisydd yn defnyddio ei ffôn ei hun a brynwyd ganddo at ddibenion personol, ac nid eir i unrhyw gostau pellach y tu hwnt i gostau misol arferol galwadau neu ddata. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
 

N/A

Gorbenion

Mae'n cynnwys cost:

  • trydan 
  • llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd 

i'w defnyddio yn ystod ymgyrch yr ymgeisydd.

Mae'n cynnwys cost tanysgrifio ar gyfer gwasanaethau monitro'r cyfryngau a gwasanaethau datganiadau i'r wasg a gwifren y wasg.

Costau sy'n gysylltiedig ag asiantiaid, gwirfoddolwyr a chyflogeion

Mae'n cynnwys cost llety i'r asiant, lle mae'n cael ei had-dalu gan yr ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.

Mae'n cynnwys cost gwirfoddolwyr, cyflogeion a chyflogeion plaid lle maent yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol, gan gynnwys eu costau llety os ydynt yn cael eu had-dalu gan yr ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.

Costau nad ydynt wedi'u cynnwys

Nid yw'n cynnwys cost gofal plant i ymgeisydd na'i asiant na gwirfoddolwr.

Nid yw'n cynnwys cost dŵr, nwy na'r dreth gyngor.

Nid yw'n cynnwys llety a ddarperir gan unrhyw unigolyn arall sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r unigolyn os caiff ei ddarparu'n ddi-dâl.

Mae ‘treuliau personol’ yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â'r etholiad.

Lle bydd cost llety ar draul bersonol yr ymgeisydd, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth yn Treuliau personol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023