Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol

Gostyngiadau masnachol yw'r rhai sydd ar gael i gwsmeriaid tebyg eraill, fel gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol.

Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i chi gan gyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol.
 

Example

Er enghraifft, bydd argraffwr yn rhoi dyfynbris o £120 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad o 5% i'r ymgeisydd ar yr archeb am ei fod yn hoffi polisïau'r ymgeisydd. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.

Er bod y taflenni wedi cael eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd am ostyngiad anfasnachol, nid yw'r gostyngiad yn fwy na 10%. Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd roi gwybod am y £116 a dalwyd am y taflenni fel taliad arferol a wnaed gan yr asiant.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023