Wedi'u trosglwyddo neu eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo
Rhaid i'r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd er mwyn iddi gyfrif fel gwariant tybiannol. 1
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r ymgeisydd. Os caiff rhywbeth ei drosglwyddo neu ei ddarparu i chi ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, rhaid rhoi gwybod am hwn ar wahân yn yr adran rhoddion o ffurflen gwariant yr ymgyrch fer. Ceir rhagor o wybodaeth am y rheolau ynglŷn â rhoddion yn Rhoddion ymgeiswyr.
Example
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch – felly mae'r taflenni wedi cael eu trosglwyddo i'r ymgeisydd.
Os bydd yr ymgeisydd yn dosbarthu'r taflenni, bydd wedi eu defnyddio yn ei ymgyrch. Rhaid cofnodi gwerth y taflenni (os yw dros £50) fel gwariant tybiannol
N/A
Os na chaiff eitem sy'n hyrwyddo eich etholiad ei throsglwyddo neu ei darparu i chi, yna mae'n debygol y bydd yn ymgyrchu lleol gan bwy bynnag a gyflawnodd y gweithgaredd.
Example
Enghraifft B
Mae plaid yn anfon taflenni sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae'n rhoi gwybod i'r ymgeisydd y bydd yn gwneud hynny ymlaen llaw.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi rhoi unrhyw beth i'r ymgeisydd – y cyfan y mae wedi'i wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd yr hyn y mae am ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ei hun.
Er y gallai'r ymgeisydd gael budd o'r taflenni, nid yw'r blaid wedi rhoi rhywbeth i'r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd benderfynu a yw am ei ddefnyddio ai peidio a sut.
Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd yw hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn Ymgyrchu lleol.