Mae gwariant tybiannol yn dechrau pan gaiff rhywbeth o werth ei ddarparu. Pan fydd y gwerth dros £50, mae hyn hefyd yn rhodd. 1
Dylech weithio allan werth yr hyn a ddarparwyd fel gwariant tybiannol yn yr un ffordd ag y byddwch yn gweithio allan werth rhodd anariannol.
Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwariant tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr. Bydd angen i chi gynnwys gwerth unrhyw dreuliau, fel costau teithio neu fwyd, rydych chi neu'r cyflogwr yn eu had-dalu.
1. Schedule 2A, paragraph 2(1)(e) & para. 4(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983)↩ Back to content at footnote 1