Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Sut mae anghymhwyster cyfreithiol yn effeithio ar yr hawl i gofrestru i bleidleisio?
Sut mae anghymhwyster cyfreithiol yn effeithio ar yr hawl i gofrestru i bleidleisio?
Ni ellir cynnwys unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio ar y gofrestr etholwyr.1
Cyfoedion
Mae arglwyddi sy'n aelodau o Dŷ'r Arglwyddi2 wedi'u hanghymhwyso rhag pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, ac felly nid oes hawl ganddynt i gael eu cofrestru ar gofrestr etholwyr Senedd y DU. Fodd bynnag, maent yn gymwys i gael eu cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol, gan nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.3
Mae rhestr lawn o aelodau o Dŷ'r Arglwyddi i'w gweld ar Wefan Tŷ'r Arglwyddi. Neu, bydd Swyddfa Gwybodaeth Tŷ'r Arglwyddi yn gallu helpu gydag ymholiadau drwy e-bost, neu gellir cysylltu â hi drwy ffonio 0800 223 0855 neu 020 7219 3107.
Carcharorion wedi'u heuogfarnu a gedwir
Mae carcharorion wedi'u heuogfarnu a gafwyd yn euog o drosedd (ac eithrio dirmyg llys) ac a gedwir yn y carchar (ac eithrio'r sawl a gedwir o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfio â dedfryd ddigarchar) yn anghymwys yn ôl y gyfraith i bleidleisio ac felly nid ydynt yn gymwys i gael eu cynnwys ar y gofrestr etholwyr. Mae hyn yn wir p'un a yw'r unigolyn yn y carchar neu'n rhydd yn anghyfreithlon.4 Mae'n bosibl, o dan rai amgylchiadau cyfyngedig, y bydd carcharorion wedi'u heuogfarnu a gaiff eu rhyddhau ar drwydded dros dro yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru i bleidleisio, o wybod nad yw'r carcharorion hynny o bosibl yn cael eu cadw o fewn ystyr adran 3, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Troseddwyr wedi'u heuogfarnu a gedwir mewn ysbyty iechyd meddwl
Mae troseddwyr wedi'u heuogfarnu a gedwir mewn ysbyty iechyd meddwl (neu sy'n rhydd yn anghyfreithlon) yn anghymwys yn ôl y gyfraith i bleidleisio ac felly ni ellir eu cynnwys ar y rhestr o etholwyr.5
Unigolion a gafwyd yn euog o droseddau etholiadol
Mae unigolion a gafwyd yn euog o'r canlynol:
- yr arfer lwgr o gam-bersonadu
- arfer lwgr mewn perthynas â cheisiadau am bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy
yn anghymwys yn ôl y gyfraith i gael eu cofrestru i bleidleisio am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad yr euogfarn neu adroddiad y llys etholiadol.6
Mae unigolion a gafwyd yn euog o'r canlynol:
- pleidleisio neu wneud cais i bleidleisio yn fwriadol pan oeddent wedi'u hanghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio
- penodi dirprwy yn fwriadol sydd wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio
- pleidleisio fel dirprwy yn fwriadol ar ran unigolyn sydd wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio
- pleidleisio sawl gwaith (fel etholwr neu fel dirprwy)
yn anghymwys yn ôl y gyfraith i gael eu cofrestru i bleidleisio am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad yr euogfarn neu adroddiad y llys etholiadol:7
Mae'n bosibl y bydd rhai achlysuron pan na fydd llys yn anghymhwyso unigolyn ymhellach rhag cofrestru i bleidleisio neu'n lliniaru neu'n dileu unrhyw anghymhwyster sydd eisoes yn bodoli. Felly bydd angen i chi wneud penderfyniad fesul achos, wrth ystyried unrhyw ddyfarniadau neu adroddiadau llys lle y bo'n bosibl. Byddai apêl lwyddiannus yn erbyn euogfarn hefyd yn dileu'r anghymhwyster cyfreithiol.
- 1. Adran 4, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 3(2), Deddf Tŷ'r Arglwyddi 1999 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 3(2), Deddf Tŷ'r Arglwyddi 1999 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 3, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 3A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adrannau 60, 62, 173(1), (2) a (2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adrannau 61, 173(1), (2) a (3), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7