Sut mae galluedd meddyliol yn effeithio ar yr hawl i gofrestru i bleidleisio?
Sut mae galluedd meddyliol yn effeithio ar yr hawl i gofrestru i bleidleisio?
Nid yw diffyg galluedd meddyliol yn gyfystyr ag anghymhwyster cyfreithiol rhag pleidleisio. 1
Mae unigolion sy'n bodloni'r amodau cymhwyso cofrestru eraill yn gymwys i gofrestru ni waeth beth fo'u galluedd meddyliol.
Hawliau pleidleisio
Er y gellir cofrestru etholwyr ag unrhyw lefel o alluedd meddyliol, neu ddim alluedd meddyliol, i bleidleisio, rhaid i'r penderfyniad ynghylch a ddylid pleidleisio a sut y dylid pleidleisio mewn etholiad gael ei wneud gan yr etholwr ei hun, ac nid gan unrhyw unigolyn arall ar ei ran. Ni chaiff y sawl sy'n gofalu am unigolyn, neu sy'n gwneud penderfyniadau ar ei ran fel arall, wneud penderfyniadau mewn perthynas â phleidleisio.