Beth yw'r gofynion o ran preswylio at ddibenion cofrestru?
Beth yw'r gofynion o ran preswylio at ddibenion cofrestru?
Rhaid i unigolyn fod yn preswylio, ar y dyddiad perthnasol, yn y cyfeiriad yr hoffai gael ei gofrestru ynddo.1
Mae ystyr penodol i breswylio mewn cyfraith etholiadol, ac nid yw'n gyfystyr â phreswylio at ddibenion eraill megis treth incwm neu'r dreth gyngor.
Fel arfer, bydd unigolyn yn preswylio mewn cyfeiriad at ddibenion etholiadol os mai dyna yw ei gyfeiriad cartref parhaol.
Wrth wneud penderfyniad ar breswyliaeth unigolyn, bydd angen i chi ystyried amgylchiadau'r ymgeisydd, gan gynnwys at ba ddiben y mae'n bresennol mewn cyfeiriad penodol a/neu'r rhesymau pam ei fod yn absennol.
Beth yw cyfeiriad cymhwyso at ddibenion cofrestru etholiadol?
Y cyfeiriad cymhwyso yw'r cyfeiriad y mae hawl gan yr unigolyn i gael ei gofrestru ynddo. Rhaid tybio bod yr ymgeisydd neu'r etholwr yn 'breswylydd' yn y cyfeiriad hwn yn unol â chyfraith etholiadol.
Rhaid i'r gofrestr gynnwys cyfeiriadau cymhwyso'r unigolion hynny sydd wedi'u cofrestru ynddi,2
yn amodol ar eithriadau penodol, gan gynnwys etholwyr tramor ac etholwyr dienw. Mae gwybodaeth fwy manwl am yr eithriadau hyn ar gael yn ein canllawiau ar etholwyr categori arbennig.
Pa etholwyr sydd wedi'u heithrio rhag y gofyniad preswylio?
Mae darpariaethau arbennig gan gategorïau penodol o etholwyr sy'n rhoi hawl iddynt gofrestru er nad ydynt yn bodloni'r gofyniad preswylio. Mae'r etholwyr hyn yn cynnwys:
pleidleiswyr yn y lluoedd arfog
etholwyr dienw
etholwyr tramor
Ar ôl cyflwyno'r datganiad perthnasol ar y cyd â'u cais i gofrestru i bleidleisio, tybir bod etholwyr o'r fath yn bodloni'r gofyniad preswylio. Mae ein canllawiau ar etholwyr categori arbennig yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o etholwyr a'r broses sy'n eu galluogi i gofrestru.
A fydd meddiannaeth anghyfreithlon o dir neu eiddo yn atal cofrestru?
Ni fydd meddiannaeth anghyfreithlon o dir neu eiddo yn anghymhwyso unigolyn rhag cofrestru yno os penderfynir mai hwn yw ei gartref parhaol. O ganlyniad i hyn, rhaid diystyru unrhyw faterion mewn perthynas â thenantiaeth, perchenogaeth neu feddiannaeth gyfreithlon o'r eiddo gan yr ymgeisydd wrth benderfynu a yw'r gofyniad preswylio wedi'i fodloni.