Rhaid i chi benderfynu ar geisiadau i gofrestru ar sail p'un a yw ymgeisydd yn bodloni'r gofynion ar gyfer cofrestru a ph'un a yw wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru ar y dyddiad perthnasol ai peidio. Mae'r dyddiad perthnasol yn amrywio yn dibynnu ar sut y caiff y cais ei gyflwyno:
ar gyfer cais a gyflwynir ar ffurflen bapur, y dyddiad perthnasol yw dyddiad cyflwyno'r cais,1
h.y. y dyddiad y gwnaeth yr ymgeisydd gwblhau'r ffurflen, gan gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol
ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar-lein, y dyddiad perthnasol yw'r dyddiad y bydd y Gwasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol yn cofnodi bod eich cais wedi'i gyflwyno. Bydd y wybodaeth a anfonir atoch yn cynnwys y stamp dyddiad electronig
ar gyfer ceisiadau a gyflwynir dros y ffôn a cheisiadau wyneb yn wyneb (a gaiff eu gwneud yn ôl eich disgresiwn), y dyddiad perthnasol yw'r amser y bydd yr holl wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y cais wedi'i gofnodi a bod yr ymgeisydd wedi datgan bod y wybodaeth yn wir
Ni waeth beth yw'r dyddiad perthnasol ar ffurflen gais bapur, rhaid eich bod wedi cael y ffurflen gais i gofrestru erbyn y terfyn amser priodol er mwyn penderfynu ar y cais a'i gynnwys yn niweddariad nesaf y gofrestr.