Ar ba oedran y caiff unigolyn gofrestru i bleidleisio?
Mae gan bobl ifanc 16 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol sy'n bodloni'r amod cymhwyso preswyl ac nad ydynt wedi’u hanghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio, hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol , ond rhaid i etholwr fod yn 18 oed i gael ei gynnwys ar gofrestr Senedd y DU.
Mae hyn yn golygu y bydd y gofrestr llywodraeth leol yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed fel etholwyr llawn, a bydd hawl gan bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd1
ac yn etholiadau llywodraeth leol.
Hefyd, bydd gan bobl ifanc 15 oed a rhai 14 oed hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr fel ‘cyrhaeddwyr’.
At ddibenion y gofrestr llywodraeth leol yng Nghymru, cyrhaeddwr yw person ifanc a fydd yn cyrraedd 16 oedd erbyn diwedd y deuddeg mis yn dilyn y 1 Rhagfyr ar ôl y dyddiad perthnasol. Rhaid i'r gofrestr gynnwys y dyddiad y bydd unrhyw gyrhaeddwyr yn cyrraedd 16 oed, h.y. y dyddiad y bydd hawl i bleidleisio ganddynt.
Fodd bynnag, rhaid i etholwr fod yn 18 oed i bleidleisio mewn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Rhaid i'r cofnod yn y cofrestrau cyfun ar gyfer unrhyw berson ifanc 16 neu 17 oed sydd wedi'i gofrestru'n etholwr llywodraeth leol yn unig nodi'r dyddiad y bydd yr unigolyn yn cyrraedd 18 oed.3
Ni ddylid cynnwys gwybodaeth am bobl ifanc o dan 16 oed ar unrhyw fersiwn o'r gofrestr a gaiff ei chyhoeddi neu ei rhyddhau fel arall, ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn.4