| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyllidebu ar gyfer gweithgarwch cofrestru

Fel rhan o'ch broses gynllunio flynyddol, bydd angen i chi ystyried pa gyllideb sydd ei hangen arnoch er mwyn cyflawni eich swyddogaethau statudol. Dylid cymeradwyo'r gyllideb ar gyfer cofrestru rhyngoch chi a'r cyngor a'ch penododd, a dylai fod yn ddigonol i'ch caniatau i gyflawni eich dyletswyddau i gynnal y gofrestr.

Dylai hyn gynnwys yr holl weithgarwch sy'n gysylltiedig â: 

  • chynnal y canfasio blynyddol
  • cynnal cyflawnder a chywirdeb y gofrestr drwy gydol y flwyddyn, drwy brosesau cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ac anfon gwahoddiadau i gofrestru i bleidleisio 

Dylech gyfrifyddu'n gywir am eich treuliau cofrestru a chysylltu â'r cyngor i drefnu proses a chyllideb gyfrifyddu addas.

Er ein bod yn cydnabod y pwysau cyllidebol sy'n wynebu awdurdodau lleol, sy'n eu gorfodi i wneud dewisiadau anodd rhwng cyflawni gwasanaethau staudol, ni fydd diffyg adnoddau yn eich eithrio rhag cydymffurfio â'r gyfraith.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026