Pa adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich cynllun cofrestru?

Pa adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich cynllun cofrestru? 

Bydd angen i chi nodi'r gwaith y bydd angen i chi ei wneud er mwyn ymgysylltu â phreswylwyr ac, yn sgil hynny, yr adnoddau y bydd eu hangen arnoch. Drwy adolygu eich cynllun a'ch gweithgarwch yn barhaus, byddwch yn gallu nodi a ydych yn llwyddo i ateb eich heriau lleol ac yn gallu targedu eich adnoddau i'r mannau hynny lle y mae eu hangen fwyaf. 

Bydd angen i chi ystyried pa adnoddau, gan gynnwys adnoddau staffio, y bydd eu hangen er mwyn prosesu ceisiadau gan bobl ifanc rhwng 14 a 16 oed.  Bydd angen i staff gael hyfforddiant a chanllawiau priodol ar sut i drin a storio data personol pobl ifanc 14 a 15 oed. 

Dylech hefyd gysylltu â'ch adran gwasanaethau addysg leol i gael data a fydd yn helpu i fireinio eich tybiaethau ymhellach. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, dylech ystyried llunio cytundeb rhannu data er mwyn hwyluso'r broses o rannu data yn ddiogel ac yn amserol. 

Ymhlith yr adrannau a'r unigolion allweddol y gall fod angen i chi eu cynnwys mae: 

  • adran TG yr awdurdod lleol 
  • tîm cyllid yr awdurdod lleol
  • deiliaid data
  • swyddog diogelu data'r awdurdod lleol
  • rheolwr canolfan alwadau / derbynfa'r awdurdod lleol
  • rheolwr cysylltiadau / cyfryngau'r awdurdod lleol (os oes un)
  • rheolwr adnoddau dynol yr awdurdod lleol
  • cynrychiolwyr o dimau'r awdurdod lleol/unigolion a sefydliadau lleol sy'n gweithio gyda grwpiau a dangynrychiolir yn eich ardal, fel adrannau addysg lleol

Wrth fynd ati i weithio gydag adrannau allweddol, dylech gofio mai dim ond Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff fydd yn gallu defnyddio'r data sy'n ymwneud â'r unigolion hyn, yn amodol ar eithriadau cyfyngedig. Bydd Swyddogion Canlyniadau yn etholiadau'r Senedd yn gallu gweld data sy'n ymwneud â'r bobl ifanc 15 oed hynny a fydd yn cyrraedd oedran pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio neu cyn hynny. Gall data ar berson ifanc gael eu datgelu hefyd i'r person ifanc ei hun, ac mewn rhai amgylchiadau eraill a ragnodir. I gael canllawiau pellach ar sut y gellir gweld y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y gofrestr etholiadol, gweler Pwy y gellir rhoi'r gofrestr iddynt?

Dylai eich cynllun gynnwys sut y byddwch yn ymgysylltu â'r adrannau/unigolion hyn a pha mor aml y byddwch yn cyfarfod â nhw. Ystyriwch y canlynol:

  • ai chi ddylai gadeirio'r grŵp?
  • pwy ddylai gymryd rhan?
  • beth fydd y cylch gorchwyl?
  • sut y caiff camau gweithredu eu cofnodi a'u rhoi ar waith?
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Tachwedd 2024