Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Canfasio ac ymchwil i’r farchnad
Dim ond os yw’n gofyn am farn neu wybodaeth gan y cyhoedd y bydd canfasio ac ymchwil i’r farchnad sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu, hwyluso, cynnal neu gydgysylltu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad, gan gynnwys cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
Er enghraifft, cost defnyddio banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys datblygu sgriptiau i gyflogeion banciau ffôn eu defnyddio y bwriedir iddynt ddylanwadu ar bleidleiswyr.
Example
Enghraifft
Rydych yn llogi asiantaeth ymchwil i'r farchnad er mwyn cael gwybodaeth am fwriad pleidleisio aelodau o'r cyhoedd ledled yr Alban a bydd yr asiantaeth yn dadansoddi'r data hyn i chi. Nod yr ymchwil i'r farchnad yw ei defnyddio i dargedu eich ymgyrch at bleidleiswyr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU sydd ar ddod.
Gan ddefnyddio'r data hyn, rydych wedyn yn llogi banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr yn ystod yr wythnosau cyn etholiad, gyda'r bwriad o ddylanwadu arnynt i bleidleisio dros bleidiau sy'n cefnogi polisi penodol.
Gan fod yr ymchwil i'r farchnad a'r defnydd o'r banciau ffôn yn bodloni'r prawf diben ac yn ceisio barn aelodau o'r cyhoedd, ystyrir bod y costau hyn yn weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
From the Code of Practice
Costau cael neu gynnal data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- setiau data, gan gynnwys defnyddio dadansoddeg data i hwyluso ymchwil i'r farchnad neu waith canfasio neu i’w cyflawni.
Er enghraifft, mae'n cynnwys cost ymgymryd â gweithgarwch gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi'r canlyniad er mwyn canfod bwriad pleidleiswyr.
Costau eraill
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar sydd ei angen i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
- cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
- cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
Er enghraifft, gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio i ganfasio a ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydgysylltydd y gweithgarwch canfasio lle telir am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig gan drydydd parti cofrestredig, neu ceir ad-daliad ganddo.
Canvassing
Gall gwaith canfasio ac ymchwil i'r farchnad gynnwys gweithgareddau fel:
- curo ar ddrysau neu ffyrdd eraill o ganfasio aelodau o'r cyhoedd neu gasglu gwybodaeth ganddynt
- defnyddio banciau ffôn i ffonio aelodau o'r cyhoedd er mwyn hyrwyddo plaid benodol neu gategorïau o ymgeiswyr, neu weld sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
- anfon arolygon neu holiaduron at aelodau o'r cyhoedd er mwyn canfod sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
Os bydd eich gwaith canfasio neu ymchwil i'r farchnad yn bodloni'r prawf diben ond ei fod ond yn cael ei wneud ymhlith aelodau neu gefnogwyr eich sefydliad, ni fydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir am nad yw'n ymwneud â'r cyhoedd. 1
- 1. Atodlen 8A, para. 1(5) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1