Ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill

Dim ond os ydynt yn agored i unrhyw un eu clywed, eu gweld neu eu mynychu y bydd ralïau a digwyddiadau sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. 

Pan fo mynediad i’r rali neu’r digwyddiad cyhoeddus wedi’i gyfyngu gan yr ymgyrchydd di-blaid fel nad yw’r cyhoedd yn gallu cymryd rhan, ni fydd hyn yn cael ei reoleiddio.

Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i: 

  • hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
  • cynnal rali neu ddigwyddiad arall
  • ffrydio rali neu ddigwyddiad arall yn fyw neu ei (d)darlledu drwy unrhyw ddull 

Costau eraill

Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r rali neu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.

Mae'n cynnwys darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.

Mae'n cynnwys prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â: 

  • chynnal cyfarfod cyhoeddus 
  • ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull

Costau sydd wedi'u heithrio

Nid yw costau adroddadwy yn cynnwys cost darparu diogelwch penodol i unrhyw berson sy'n ymddangos yn y digwyddiad neu'n ei fynychu, na chostau darparu diogelwch cyffredinol ar gyfer pobl neu eiddo yn y digwyddiad.

Example

Enghraifft

Os bydd eich sefydliad yn cynnal rali i aelodau yn unig yng nghanol tref, neu'n gorymdeithio drwy ganol tref brysur, mae'r digwyddiad yn agored i unrhyw aelod o'r cyhoedd ei weld neu ymuno ynddo (hyd yn oed os mai dim ond aelodau o'ch sefydliad sy'n cymryd rhan yn y rali). Ystyrir bod y rali yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os bydd yn bodloni'r prawf diben hefyd.

Yn yr un modd, os byddwch yn cynnal rali neu ddigwyddiad dan do, bydd hon/hwn hefyd yn cael ei r(h)eoleiddio os byddwch wedi hyrwyddo'r rali neu'r digwyddiad ymhlith aelodau o'r cyhoedd, er enghraifft, drwy ei hyrwyddo drwy hysbysebion yn y papur newydd a thrwy daflenni, a'i bod/fod yn bodloni'r prawf diben.

Fodd bynnag, os byddwch yn cynnal digwyddiad caeedig i bobl sydd wedi cofrestru i wirfoddoli i'ch ymgyrch, lle na all aelodau o'r cyhoedd fod yn rhan o'r digwyddiad nac ymuno ynddo, ni chaiff hwn ei reoleiddio.

Os byddwch yn darparu diogelwch i gyfranogwyr neu eiddo mewn digwyddiad, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Pa ralïau a digwyddiadau na chânt eu rheoleiddio?

Pa ralïau a digwyddiadau na chânt eu rheoleiddio?

Ni chaiff ralïau a digwyddiadau cyhoeddus eu rheoleiddio os: 

  • mai eich cynhadledd flynyddol ydynt
  • mai gorymdaith gyhoeddus neu gyfarfod protest yng Ngogledd Iwerddon ydynt, lle rhoddwyd hysbysiad o dan Ddeddf Gorymdeithiau Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) 19981
  • mai hustyngau annewisol ydynt, sef hustyngau na fyddai'n rhesymol ystyried eu bod wedi'u bwriadu i gefnogi na gwrthwynebu pleidiau penodol na chategorïau o ymgeiswyr
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023