Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Canfasio ac ymchwil y farchnad
Dim ond os yw’n ceisio barn neu wybodaeth gan y cyhoedd yn gyffredinol y bydd canfasio ac ymchwil marchnad sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Gall canfasio ac ymchwil marchnad gynnwys gweithgareddau fel:
- curo ar ddrysau neu ffyrdd eraill o gasglu gwybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd
- defnyddio banciau ffôn i ffonio aelodau o’r cyhoedd i hyrwyddo plaid benodol neu gategorïau o ymgeiswyr, neu i ddarganfod sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
- arolygon neu holiaduron a anfonir at aelodau o’r cyhoedd i ddarganfod sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
Os yw eich gweithgarwch canfasio neu ymchwil marchnad yn bodloni’r prawf diben ond dim ond gydag aelodau neu gefnogwyr eich sefydliad y caiff ei gynnal, ni fydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gan nad yw’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol.1
Dyma enghreifftiau o gostau a fydd yn cael eu cynnwys mewn cysylltiad â chanfasio ac ymchwil marchnad.
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar
Mae enghreifftiau’n cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir mewn cysylltiad â chanfasio neu ymchwil marchnad. Mae hyn yn cynnwys cofnodi, dadansoddi neu wneud defnydd o ganlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgarwch canfasio.
Er enghraifft, rydych chi’n llogi asiantaeth ymchwil marchnad i gael cipolwg ar fwriad pleidleisio aelodau’r cyhoedd ledled Cymru ac yn dadansoddi’r data hwn ar eich rhan. Nod yr ymchwil marchnad yw ei ddefnyddio i dargedu eich ymgyrch at bleidleiswyr yn etholiad y Senedd.
Gan ddefnyddio’r data hwn, rydych chi wedyn yn llogi banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr yn yr wythnosau cyn etholiad, gyda’r bwriad o ddylanwadu arnyn nhw i bleidleisio dros bleidiau sy’n cefnogi polisi penodol.
Gan fod yr ymchwil marchnad a bancio dros y ffôn yn bodloni’r prawf diben ac yn ceisio barn aelodau o’r cyhoedd, mae’r costau hyn yn weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Costau casglu neu gynnal data
Mae enghreifftiau’n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- setiau data, gan gynnwys defnydd o ddadansoddeg data i hwyluso neu i gynnal ymchwil y farchnad neu ganfasio
Er enghraifft, costau gan gynnwys gwrando ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r data i ddeall bwriad pleidleiswyr.
Costau eraill
Mae enghreifftiau’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw offer sydd ei angen i:
- paratoi, llunio neu hwyluso gwaith canfasio neu ymchwil y farchnad
- cynnal neu gydlynu gwaith canfasio neu ymchwil y farchnad
- cofnodi neu ddadansoddi, neu ddefnyddio mewn ffordd arall, ganlyniadau unrhyw weithgarwch ymchwil y farchnad neu ganfasio
Er enghraifft, gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio a ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydlynydd y gwaith canfasio os bydd yr offer hwnnw a/neu gostau cysylltiedig yn cael eu talu neu eu had-dalu gan drydydd parti cofrestredig.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 1(5) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1