Ystyrir bod cynhadledd i’r wasg neu ddigwyddiad cyfryngau yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os caiff ei drefnu gennych chi neu ar eich rhan, a’i fod yn bodloni’r prawf diben.
Os nad ydych chi’n gwahodd y cyfryngau’n benodol i ddigwyddiad agored rydych chi’n ei gynnal, ond bod y cyfryngau’n mynychu beth bynnag, ni fydd yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad cyfryngau fel arfer. Fodd bynnag, gellir ei ystyried yn rali neu ddigwyddiad cyhoeddus, lle mae’r deddfau’n berthnasol.
Os byddwch chi’n cynnal digwyddiad i aelodau yn unig rydych chi’n gwahodd y cyfryngau iddo, bydd hwn fel arfer yn ddigwyddiad cyfryngau.
Mae enghreifftiau’n cynnwys costau:
gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
offer
safle neu gyfleusterau
hawliau neu ffioedd trwyddedu ar gyfer delweddau
a ddefnyddir mewn cysylltiad â chynadleddau’r wasg neu ddigwyddiadau’r cyfryngau eraill.
Datganiadau i’r wasg
Bydd y cyfryngau yn aml yn gofyn i sefydliadau roi sylwadau ar faterion neu ddigwyddiadau penodol. Os ydych chi’n ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau, ni fydd unrhyw sylw neu ddatganiad a wneir gennych chi yn cael ei ystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Ni fydd datganiadau i’r wasg yn cael eu hystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn gyffredinol os cânt eu hanfon at y cyfryngau yn unig.
Er enghraifft, mae sefydliad yn rhedeg ymgyrch sy’n canolbwyntio ar les anifeiliaid. Ar ddechrau’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd, maent yn cymharu polisïau presennol ac arfaethedig y prif bleidiau gwleidyddol ar les anifeiliaid yng Nghymru mewn datganiad i’r wasg. Yn eu datganiad, maen nhw’n mynegi cefnogaeth ar gyfer dau o bolisïau’r blaid ac yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros y pleidiau hyn yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae’r ymgyrchydd yn anfon y datganiad i’r wasg at y cyfryngau yn gyntaf, ac nid yw ar gael yn unman arall. Gan mai dim ond gyda’r cyfryngau y caiff y datganiad i’r wasg ei rannu, nid yw hwn yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Wythnos yn ddiweddarach, mae’r ymgyrchydd yn rhannu’r datganiad i’r wasg ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gan fod cynnwys y datganiad i’r wasg yn bodloni’r prawf diben, mae hwn yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.