| Argraffu'r canllawiau llawn

Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd etholiadol

Bydd deunydd ymgyrchu yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os yw’n bodloni’r prawf diben ac ar gael i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd ei glywed neu ei weld. Mae p’un a yw’r deunydd ar gael i’r cyhoedd yn cael ei bennu gan bwy sydd â mynediad at y deunydd hwnnw.

Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod. Mae gofynion ar wahân sy’n berthnasol i ddeunyddiau argraffedig a digidol. Fel arfer da, rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar bob deunydd a gyhoeddwch.

Deunydd wedi’i gyfyngu i bobl benodol

Ni fydd deunydd rydych chi’n ei gyfyngu fel mai dim ond grŵp caeedig o aelodau neu bobl sydd wedi dewis ei dderbyn all ei weld yn cael ei ystyried wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd, nac i ran o’r cyhoedd.

Os na all y cyhoedd gael mynediad at ddeunydd, ni fydd yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r deunydd wedi’i argraffu neu’n ddigidol.

Er enghraifft, rydych chi’n cynhyrchu cylchlythyr yr ydych ond yn ei anfon at bobl sydd wedi cofrestru i dderbyn diweddariadau gennych chi, sydd wedi ymuno â’ch cynllun aelodaeth neu sydd wedi rhoi cyfraniadau at eich ymgyrch. Rydych chi’n sicrhau nad yw’r cylchlythyr hwn ar gael yn unman arall. 

Gan fod y cylchlythyr ond wedi’i rannu â phobl benodol, nid yw ar gael i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd. Ni fydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.

Gwefannau a blogiau

Ystyrir bod cynnwys gwefannau, gan gynnwys blogiau, wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd os nad oes cyfyngiadau ar bwy all gael mynediad at y cynnwys. Bydd yn cael ei reoleiddio os yw:

  • yn cynnwys cynnwys y gellir ystyried yn rhesymol ei fod wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr
  • yn cael ei hysbysebu (neu ei hyrwyddo fel arall) i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd, mewn cysylltiad â’ch ymgyrch

Gall hysbysebu neu hyrwyddo gynnwys:

  • rhoi cyfeiriad y wefan fel ffynhonnell ar gyfer rhagor o wybodaeth am ddeunydd ymgyrchu arall, neu mewn cyfathrebiadau eraill fel diweddariadau e-bost
  • gwella safle’r wefan mewn rhestrau canlyniadau peiriannau chwilio
  • rhoi dolenni ar wefannau eraill
  • marchnata feirol wedi’i drefnu neu weithgareddau tebyg

Er enghraifft, rydych chi’n cynhyrchu graffig yn ystod y cyfnod a reoleiddir rydych chi’n annog eich cefnogwyr i’w rannu ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at eich sefydliad. Mae’r graffig yn cynnwys dolen i dudalen gyhoeddus ar eich gwefan lle gall pobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich ymgyrch. Rydych chi wedi asesu bod y graffig a’r wefan yn bodloni’r prawf diben.

Nid oes gan y wefan na’r graffig gyfyngiadau ar bwy all gael mynediad atynt ac felly fe’u hystyrir yn rhai sydd ar gael i’r cyhoedd. Gan fod y deunydd hefyd yn bodloni’r prawf diben, byddant yn cyfrif fel gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Mewn cyferbyniad, os byddwch chi’n rhoi deunydd ar eich gwefan sydd ar gael i bobl rydych chi’n anfon y ddolen atynt yn unig, er enghraifft i’r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer eich rhestr postio drwy e-bost, ni fydd y deunydd hwn yn cael ei ystyried wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Yn y senario hwn ni fydd y deunydd yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae deunydd ymgyrchu a gyhoeddwyd ar gyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i unrhyw un ei weld wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys enwi deunydd ymgyrchu neu ddeunyddiau sydd wedi’u targedu at ran benodol o’r cyhoedd, er enghraifft ymgyrchoedd sydd wedi’u cyfeirio at drigolion ardal benodol, neu bobl sy’n aelodau o grwpiau neu rwydweithiau penodol.

Fodd bynnag, nid yw cynnwys cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’i gyfyngu i grŵp penodol o bobl ac na all unrhyw aelod o’r cyhoedd ei gyrchu, wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Er enghraifft, mae’n annhebygol y byddai deunydd ymgyrchu a rennir ar grŵp Facebook caeedig neu gyfrif X (Twitter gynt) preifat yn unig yn cael ei reoleiddio am y rheswm hwn.

Er mwyn asesu a fydd deunydd ymgyrchu rydych chi’n ei wneud ar gael i’r cyhoedd ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei reoleiddio, bydd angen i chi ystyried a yw hefyd yn bodloni’r prawf diben.

Os yw gwariant ar gyfryngau cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd, ac yn bodloni’r prawf diben, mae’n rhaid i chi gyfrif am gost cynhyrchu, diweddaru a dosbarthu’r deunydd hwn. Mewn nifer o achosion, bydd y costau o roi deunydd ar safle cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft anfon trydariad neu ddiweddaru tudalen Facebook, yn ddibwys.

Papurau newydd a chyfnodolion

Nid yw cynhyrchu neu gyhoeddi unrhyw gynnwys – ac eithrio hysbyseb – mewn papur newydd neu gyfnodolyn (gan gynnwys fersiynau ar-lein o bapurau newydd a chyfnodolion) yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.1

Fodd bynnag, os byddwch yn hysbysebu mewn papur newydd neu gyfnodolyn, bydd yr hysbyseb yn cael ei rheoleiddio os yw’r hysbyseb ar gael i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd, ac yn bodloni’r prawf diben. Enghraifft o hyn fyddai hysbyseb rydych chi’n ei rhoi mewn cylchlythyr lleol yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros grŵp o ymgeiswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025