| Argraffu'r canllawiau llawn

Trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch

Ystyrir bod costau trafnidiaeth yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os byddwch yn cludo pobl er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i ymgyrch sy’n bodloni’r prawf diben. Er enghraifft, efallai bod gennych fws ymgyrchu rydych chi’n ei ddefnyddio fel rhan o’ch ymgyrch.

Weithiau gall gwariant ar drafnidiaeth ddod o fewn categori arall o weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Er enghraifft, os ydych chi’n llogi fan ac yn gosod hysbysebion ar y fan, gallai hyn fod yn ddeunydd etholiadol, neu os ydych chi’n llogi minibws i fynd â’ch cefnogwyr i rali gyhoeddus, efallai y bydd angen cyfrif y costau trafnidiaeth fel rhan o gostau cynnal y rali gyhoeddus.

Nid yw gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn cynnwys treuliau personol rhesymol a ysgwyddir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer anghenion personol yr unigolyn.

Mae enghreifftiau’n cynnwys costau trafnidiaeth: 

  • gwirfoddolwyr
  • aelodau, gan gynnwys aelodau o staff
  • pobl eraill sy’n ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd nad yw’n blaid

i, o neu o amgylch ardal etholiadol pan fyddant yn ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd nad yw’n blaid. Gall y costau trafnidiaeth hyn gynnwys: 

  • prynu neu ad-dalu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus
  • llogi cerbydau
  • prynu tanwydd ar gyfer cerbyd neu wefru cerbyd trydan
  • costau parcio

Mae hefyd yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o drafnidiaeth sy’n arddangos deunydd sy’n hyrwyddo canlyniad yr etholiad, gan gynnwys:

  • dylunio cynllun a’i osod ar y cerbyd neu’r math o drafnidiaeth
  • teithio rhwng ardaloedd etholiadol
  • teithio o amgylch ardal etholiadol
  • ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd

Mae costau adroddadwy yn cynnwys yr holl gostau trafnidiaeth sy’n gysylltiedig ag unrhyw weithgarwch arall a restrir. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025