| Argraffu'r canllawiau llawn

Ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill

Dim ond os ydynt ar agor i unrhyw un eu clywed, eu gweld neu fynd iddynt y bydd ralïau a digwyddiadau sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n cael eu cynnal yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.

Pan fydd mynediad i’r rali neu’r digwyddiad cyhoeddus wedi’i gyfyngu gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid fel nad yw’r cyhoedd yn gallu cymryd rhan, ni fydd hyn yn weithgarwch a reoleiddir.

Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar 

Mae enghreifftiau’n cynnwys costau:

  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • offer

a ddefnyddir mewn cysylltiad â ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill. Mae hyn yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â ralïau a digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir, fel llogi lleoliad neu ffrydio digwyddiad rhithwir yn fyw i’r cyhoedd.

Costau eraill

Gall costau eraill gynnwys:

  • cost hyrwyddo neu hysbysebu’r rali neu ddigwyddiad drwy unrhyw ddull
  • darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, fel seddi neu fwyd

Costau sydd wedi’u heithrio

Ni fydd cost darparu diogelwch cyffredinol yn y digwyddiad neu ddiogelwch i unrhyw berson sy’n bresennol yn y digwyddiad yn adroddadwy.

Hefyd nid yw ralïau a digwyddiadau cyhoeddus yn cael eu rheoleiddio os ydynt yn:

  • cynhadledd flynyddol eich sefydliad
  • hustyngau annetholus, sef hustyngau na fyddai’n rhesymol yn cael eu hystyried fel rhai a fwriadwyd i hyrwyddo neu wrthwynebu pleidiau neu gategorïau penodol o ymgeiswyr

Er enghraifft, os yw eich sefydliad yn cynnal rali i aelodau yn unig mewn sgwâr tref, neu orymdaith drwy ganol tref brysur, mae’r digwyddiad ar agor i unrhyw aelod o’r cyhoedd ei weld neu ymuno ag ef (hyd yn oed os mai dim ond aelodau o’ch sefydliad sy’n cymryd rhan yn y rali). Bydd y rali yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os yw hefyd yn bodloni’r prawf diben.

Yn yr un modd, os byddwch chi’n cynnal rali neu ddigwyddiad dan do, bydd hyn hefyd yn cael ei reoleiddio os ydych chi wedi hyrwyddo’r rali neu’r digwyddiad i unrhyw aelodau o’r cyhoedd, er enghraifft, trwy ei hyrwyddo trwy hysbysebion yn y papur newydd a thaflenni, ac mae’n bodloni’r prawf diben.

Fodd bynnag, os byddwch chi’n cynnal digwyddiad caeedig i bobl sydd wedi cofrestru i wirfoddoli ar gyfer eich ymgyrch, lle na all aelodau’r cyhoedd gymryd rhan nac ymuno, ni fydd hyn yn cael ei reoleiddio.

Os ydych chi’n darparu diogelwch i bobl sy’n bresennol neu eiddo mewn digwyddiad, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025