Dim ond ynghylch rhoddion a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau y mae’r deddfau ar roddion yn berthnasol, yn benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid yw’r deddfau’n cynnwys arian a dderbynnir at ddibenion cyffredinol y sefydliad.
At ddibenion rhoddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, rhodd yw:
a roddir at ddiben gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir2
ac
yn ddi-dâl neu ar delerau anfasnachol gyda gwerth o fwy na £500.3
Nid yw unrhyw beth sydd â gwerth o £500 neu lai yn rhodd at ddibenion PPERA.
Pa roddion sy’n dod o dan y gyfraith?
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfyngiadau ar y rhoddion y gall ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid eu derbyn. Mae’r gyfraith yn cwmpasu pob rhodd a roddir tuag at wariant ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod a reoleiddir.4
Rhai enghreifftiau o roddion:
rhodd o arian neu eiddo
nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad
tanysgrifiad neu daliad ymlyniad
defnydd o swyddfa am ddim neu am gost ostyngedig
Rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid gadw cofnodion o’r rhoddion maen nhw’n eu derbyn a gwirio y gallant dderbyn y rhoddion hyn.
Y person cyfrifol sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn y deddfau ar roddion.
1. Atodlen 11, paragraff 2(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1