Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol

O dan y gyfraith, mae’n rhaid i rai sefydliadau roi enwau’r bobl sydd ar eu cyrff neu bwyllgorau llywodraethu pan fyddant yn cofrestru gyda’r Comisiwn. Yn ôl y gyfraith, gelwir y rhain yn ‘gyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad.

Mae’r cyfranogwyr perthnasol a’r manylion perthnasol ar gyfer pob math o sefydliad wedi’u nodi yn y tablau canlynol:

Cyfranogwyr perthnasol

SefydliadCyfranogwyr perthnasol1
Cwmni cofrestredigCyfarwyddwyr y cwmni
Undeb llafurSwyddogion yr undeb llafur
Cymdeithas adeiladuCyfarwyddwyr y gymdeithas
Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedigAelodau'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
Cymdeithasau cyfeillgarAelodau pwyllgor rheoli'r gymdeithas
Cymdeithasau diwydiannol a darbodusAelodau pwyllgor rheoli neu gorff cyfarwyddo arall y gymdeithas
Cymdeithasau anghorfforedigLle mae gan y gymdeithas anghorfforedig fwy na 15 aelod ynghyd â swyddogion neu gorff llywodraethu, y swyddogion hynny neu aelodau’r corff llywodraethu. Fel arall, aelodau’r corff.

Manylion perthnasol

SefydliadManylion perthnasol2
Cyrff sydd wedi’u corffori gan Siarter FrenhinolSwyddogion y corff neu aelodau ei gorff llywodraethu
Partneriaethau yn yr AlbanY partneriaid
Sefydliad elusennol anghorfforedig yn y DUYmddiriedolwyr yr elusen
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025