Fel rhan o'ch cynlluniau ar gyfer ymgysylltu â phleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid a'u helpu i gymryd rhan yn yr etholiad, bydd angen i chi benderfynu sut y caiff gwybodaeth am drefniadau lleol ei darparu i ymgeiswyr.
Bydd trefniadau lleol yn cynnwys gwybodaeth am y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau ar gyfer y prosesau etholiadol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
anfon ac agor pleidleisiau post
diwrnod pleidleisio
offer a ddarperir i orsafoedd pleidleisio i wneud pleidleisio yn haws i bleidleiswyr anabl
dilysu a chyfrif pleidleisiau
Yn ogystal â chyfathrebu eich trefniadau lleol, dylech ddarparu gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am y gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio cyn anfon papur pleidleisio:
mathau o ID ffotograffoig a dderbynnir
sut y gall etholwyr nad oes ganddynt fath o ID ffotograffig a dderbynnir wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Anhysbys Etholwr
proses yr orsaf bleidleisio mewn perthynas â'r gofyniad ID
Dylai eich sesiwn neu sesiynau briffio hefyd amlygu unrhyw drefniadau diogelwch rydych wedi'u rhoi ar waith mewn ymgynghoriad â'r heddlu. Efallai y byddwch am wahodd eich pwynt cyswllt unigol yn yr heddlu i fynychu unrhyw sesiynau briffio, neu ddarparu deunydd ysgrifenedig y gallwch ei roi i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Dylech hefyd nodi sut rydych yn disgwyl i gefnogwyr ymddwyn yn yr ardal bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio y rheolau o ran trin pleidleisiau post.
Mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi darparu canllawiau ar Gadw trefn ac atal dylanwad gormodol y tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Bwriedir i'r ddogfen hon helpu'r heddlu i ystyried y ffordd orau o blismona gorsafoedd pleidleisio ac mae'n cynnig rhai camau ymarferol i'w helpu i leihau'r tebygolrwydd o broblemau a delio ag unrhyw rai sy'n codi. Er ei bod wedi'i hanelu at y pwynt cyswllt unigol, gall hefyd fod o fudd i chi, yn enwedig wrth gyfleu'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan gefnogwyr yn ardal y man pleidleisio i ymgeiswyr ac asiantiaid. Dylai gael ei darllen ar y cyd ag adran 3 o'r Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr: cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a gorsafoedd pleidleisio.