Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Rhoi gwybodaeth am y broses enwebu

Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), rydych yn gyfrifol am bob agwedd ar y broses enwebu mewn etholiad Senedd y DU1 .  Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth sydd ar gael i'r rhai sydd am sefyll mewn etholiad drwy ddarparu sesiynau briffio a chanllawiau ar-lein neu ganllawiau argraffedig, yn enwedig i'r rhai hynny nad ydynt wedi cysylltu'n uniongyrchol â chi na'ch staff. 

Wrth roi gwybodaeth neu sesiynau briffio am y broses enwebu, dylech sicrhau eich bod yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol: 

Dim ond ar gyfer yr ymgeisydd y mae cwestiynau ynghylch cymhwysedd neu anghymhwysedd ac ni ddylech roi cyngor ar faterion o'r fath. Dylid cyfeirio'r ymgeisydd at ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid yn y lle cyntaf. Os bydd ganddo unrhyw bryderon pellach, dylech ei gynghori i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. 

Pecynnau enwebu

Dylech baratoi pecyn enwebu ar gyfer unrhyw un sy'n mynegi diddordeb mewn sefyll etholiad.

Dylai'r pecyn enwebu gynnwys y canlynol:

  • ffurflen enwebu
  • ffurflen cyfeiriad cartref
  • ffurflen cydsynio ag enwebiad
  • ffurflen i ymgeiswyr roi hysbysiad ynghylch penodi asiant etholiad
  • ffurflenni i ymgeiswyr neu eu hasiant etholiadol roi hysbysiad ynghylch penodi asiantiaid pleidleisio, asiantiaid pleidleisiau post ac asiantiaid cyfrif
  • tystysgrif awdurdodi er mwyn caniatáu i ymgeisydd sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig
  • ffurflen fel y gall ymgeisydd plaid wleidyddol ofyn am ddefnyddio arwyddlun
  • manylion am sut y dylai'r ernes gael ei thalu, gan gynnwys gwybodaeth am ddulliau o dalu a dderbynnir
  • canllawiau ysgrifenedig i ymgeiswyr ac asiantiaid yn cwmpasu agweddau allweddol ar y broses etholiadol, gan gynnwys cymhwyso ac anghymwyso ar gyfer etholiad, y broses enwebu, beth y dylid ac na ddylid ei wneud wrth ymgyrchu, cael gafael ar drafodion etholiadol a'r hyn sy'n digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan
  • manylion am unrhyw drefniadau lleol, megis y trefniadau ar gyfer agor pleidleisiau post, yr etholiad a'r cyfrif  
  • copi o'r Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr sy'n nodi'r hyn a gaiff a'r hyn na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned 
  • manylion am sut i gael copi o'r gofrestr etholiadol a rhestrau'r pleidleiswyr absennol, a ffurflenni i wneud y fath geisiadau ynghyd â gwybodaeth am ble i anfon y ffurflenni cais hyn. Dylech danlinellu'r ffaith mai dim ond yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 a deddfwriaeth diogelu data y gellir defnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol
  • y ffigurau perthnasol ar gyfer yr etholaeth er mwyn gallu cyfrifo terfynau gwariant
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall

Mae ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar ein gwefan yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/canllawiau-i-ymgeiswyr-ac-asiantau-yn-etholiadau-cyffredinol-senedd-y-du-ym-mhrydain-fawr

Mae canllawiau'r Comisiwn ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid mewn is-etholiad Senedd y DU ar ein gwefan yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/isetholiadau-senedd-y-du-ym-mhrydain-fawr

Rydym hefyd wedi llunio set o bapurau enwebu y gallwch eu cynnwys yn eich pecynnau enwebu, sy'n cynnwys y papurau enwebu gofynnol yn ogystal â thystysgrif awdurdodi, ffurflen cais am arwyddlun a ffurflen hysbysiad o benodiad asiant etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mawrth 2024