Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Rhoi gwybodaeth am wariant etholiad

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymgeiswyr ddilyn rhai rheolau penodol mewn perthynas â'r canlynol:

•    faint y gallant ei wario
•    gan bwy y gallant dderbyn rhoddion
•    beth y mae'n rhaid iddynt gyflwyno adroddiad arno ar ôl yr etholiad

Dylech sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad yn gallu cael gafael ar wybodaeth am gyfrifo'r terfyn gwariant 1  (gan gynnwys y ffigur etholaeth ac ai etholaeth sirol neu etholaeth fwrdeistref yw'r etholaeth), ffurflenni gwariant a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni gofynion adrodd. 

Ceir rhagor o wybodaeth am y ddau fath o etholaeth yma.

Mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr wybod cyfanswm nifer yr etholwyr ar gofrestr Senedd y DU ar gyfer yr etholaeth ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o etholiad (h.y. ar yr ail ddiwrnod ar ôl derbyn yr writ), ac eithrio unrhyw atendriadau na fyddant yn 18 mlwydd oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio.  

Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd neu fod eich etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gydweithio â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol perthnasol fel y gallwch roi ffigur etholaeth cywir i ymgeiswyr a fydd yn eu galluogi i gyfrifo eu terfynau gwariant. Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn cael y ffigurau etholaeth cywir fel eu bod yn gwybod faint y gallant ei wario. 

Rydym wedi llunio canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar wariant a rhoddion yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU sydd ar gael yn ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid. Mae ein templed o gyflwyniad ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid hefyd yn cynnwys canllawiau ar wariant a rhoddion. Gallwch ddefnyddio'r adnoddau hyn i roi gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am ffurflenni gwariant a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni eu gofynion adrodd.

Is-etholiadau Senedd y DU

Yn achos is-etholiadau, bydd angen i'r sleidiau ar wariant gael eu diwygio er mwyn adlewyrchu'r cyfnod a reoleiddir a'r terfynau gwariant gwahanol sy'n gymwys i is-etholiadau.

Y terfyn gwariant ar gyfer ymgeiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir mewn is-etholiad Seneddol yn y DU yw £100,000.

Mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i'r ymgeisydd ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, ac yn dod i ben ar ddyddiad yr etholiad.

Bydd person yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol mewn is-etholiad Senedd y DU ar yr adeg y daeth y sedd yn wag os ar neu cyn y dyddiad hwn ei fod eisoes wedi datgan ei fod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad (neu fod rhywun arall wedi datgan bod y person yn bwriadu bod yn ymgeisydd).2

Os, ar ôl y dyddiad hwn, ei fod ef neu eraill yn datgan y bydd yn ymgeisydd yn yr etholiad, bydd yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir y cyfryw ddatganiad, neu ar y dyddiad y cyflwyna ei bapurau enwebu, p'un bynnag sydd gyntaf. 
Am ragor o wybodaeth, gweler hefyd ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Medi 2024