Cludo'r blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn ddiogel
Ar y cyd â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr Heddlu, dylech benderfynu sut y byddwch yn sicrhau bod blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn cael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad dilysu a chyfrif.
Fel rhan o hyn, bydd angen i chi asesu a oes gennych unrhyw ardaloedd uchel eu risg a allai olygu bod angen defnyddio gosgordd yr heddlu, fan ddiogelwch neu swyddogion ychwanegol, er enghraifft, er mwyn trosglwyddo'r blychau pleidleisio o'r orsaf bleidleisio i'r lleoliad dilysu/man casglu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.
Diogelwch wrth gludo
Dylech sicrhau bod Swyddogion Llywyddu yn ymwybodol o'r rheolau a'r prosesau y dylid eu dilyn ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys mewn perthynas â selio'r blychau pleidleisio. Ceir canllawiau ar hyn yn llawlyfr y Comisiwn ar gyfer gorsafoedd pleidleisio. Dylech bwysleisio i Swyddogion Llywyddu na ddylent byth adael y blychau pleidleisio na deunyddiau eraill heb neb i ofalu amdanynt ac os mai nhw eu hunain fydd yn cludo'r blychau pleidleisio a'r deunyddiau i fan casglu neu'r lleoliad dilysu, dylent gymryd camau i sicrhau eu bod yn ddiogel drwy gydol y daith, er enghraifft, drwy gloi drysau'r car a dilyn unrhyw gyngor penodol gan yr heddlu.
Os bydd y lleoliad ar gyfer cyfrif y pleidleisiau yn wahanol i'r lleoliad dilysu, rhaid i chi roi'r papurau pleidleisio perthnasol mewn blwch pleidleisio neu gynhwysydd addas arall a'i selio, a chaniatáu i asiantiaid atodi eu seliau. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw ofynion yn rheolau'r etholiad, megis cymeradwyo disgrifiad o'r ardal y mae'r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi ar y blychau pleidleisio a sicrhau bod yr holl ddeunyddiau a gwaith papur gofynnol yn cael eu dosbarthu i leoliad y cyfrif ynghyd â'r papurau pleidleisio.
Yn lleoliad y cyfrif, dylai fod gennych drefniadau cadarn i gofnodi'r holl ddeunyddiau a gwaith papur a fydd yn cyrraedd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth ar goll.
Diogelwch yn y lleoliad dilysu
Dylech wneud trefniadau ar gyfer sut y caiff y papurau pleidleisio a deunyddiau eraill eu cadw'n ddiogel ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad(au) dilysu a chyfrif, er enghraifft, drwy sicrhau nad ydynt byth yn cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.
Dylai'r cynlluniau hyn hefyd gynnwys diogelwch y deunyddiau hynny y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl (fel y rhestr rhifau cyfatebol), naill ai drwy drefnu bod staff yn gwylio'r deunyddiau neu drwy eu cadw mewn ystafell dan glo.