Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Dosbarthu pleidleisiau post o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau Lleol

Dylech hysbysu'r person awdurdodedig o'r amser, y lleoliad a’r amlder ar gyfer dosbarthu'r pleidleisiau post a dderbyniwyd a gyflwynwyd iddo. 

Rhaid i'r person awdurdodedig sicrhau bod y pecynnau sy'n cynnwys y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post yn cael eu cadw'n ddiogel nes iddynt gael eu dosbarthu i chi. Dylai'r dulliau o storio a chludo'r pleidleisiau post ganiatáu i chi fod yn fodlon bod y papurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy. 

Cyn eu dosbarthu i chi, yn gyntaf rhaid i'r person awdurdodedig roi mewn i becynnau ar wahân y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post, gyda disgrifiad o'r cynnwys wedi'i ysgrifennu ar bob pecyn.  Rhaid selio pob pecyn.1

Dosbarthu pleidleisiau post a wrthodwyd o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau

Rhaid i'r person awdurdodedig selio mewn pecyn ar wahân unrhyw bleidleisiau post a ffurflenni pleidleisiau post cysylltiedig2  a'u dosbarthu i chi.3

Rheoli derbyn pleidleisiau post a ddosberthir o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau 

Pan fyddwch yn derbyn y pecynnau o bleidleisiau post sydd wedi'u dosbarthu â llaw yn un o swyddfeydd y cyngor, dylech sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd briodol.

Rhaid storio'r pecynnau o bleidleisiau post a dderbynnir mewn cynwysyddion priodol. Mae ein canllaw ar Ddychwelyd a derbyn pleidleisiau post yn cynnwys rhagor o wybodaeth am storio pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ddiogel. 

Mae'n ofynnol i chi gadw cofnod o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno yn un o swyddfeydd y cyngor. Mae ein canllawiau ar Baratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gadw'r rhestr hon. Dylech sicrhau bod y pecynnau hyn yn cael eu storio'n ddiogel nes i chi agor y pecynnau i lunio'r rhestr. 

Dylech sicrhau bod y pecynnau o ffurflenni pleidleisiau post ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd yn cael eu storio'n ddiogel nes iddynt gael eu hanfon ymlaen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr neu eu cadw yn yr Alban.  Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllaw ar Gyfrifoldeb am selio a chadw dogfennau etholiadol. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Chwefror 2024